<p>Rheoli’r Risg o Lifogydd yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:37, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ddiolch hefyd am y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu cartrefi yn fy etholaeth rhag llifogydd? Ond mae cryn bryder, fel rwyf wedi sôn yn y Siambr ar sawl achlysur, ynglŷn â phromenâd dwyreiniol Hen Golwyn a pherygl llifogydd i’r rhan honno o’r arfordir, yn enwedig o ystyried y diogelwch y mae’n ei ddarparu i seilwaith hanfodol y rhwydweithiau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, yn enwedig yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru. Gwn fod angen i nifer o bobl ddod at ei gilydd i ddatrys y broblem benodol honno, ond o ystyried diddordeb Llywodraeth Cymru mewn diogelu’r A55 yn benodol, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau yn y mater hwn a dod â’r bobl hyn at ei gilydd er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â diogelu’r rhan honno o’r arfordir, yn enwedig o ystyried y gwelliannau a wnaed mewn mannau eraill yn ardal Bae Colwyn.