<p>Effaith Brexit ar Bolisi Amgylcheddol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:40, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein deddfau blaenllaw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, wedi sicrhau sylfaen gref cyn Brexit ac yn cyflawni mewn perthynas â’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, cytundeb Paris a nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig. Maent yn darparu cyfeiriad clir yn seiliedig ar rwymedigaethau rhyngwladol allweddol na fyddant yn newid o ganlyniad i Brexit.