<p>Effaith Brexit ar Bolisi Amgylcheddol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:41, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, nid yw’r amgylchedd yn parchu ffiniau neu derfynau. Beth yw barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r math o system orfodi a fydd yn angenrheidiol ar lefel y DU ar gyfer polisi amgylcheddol wedi i ni adael yr UE? Mae tystiolaeth gan Brifysgol Aberystwyth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn cyfeirio at drafodaethau ynglŷn â chreu llys amgylchedd y DU. Dywedodd cynrychiolydd o Brifysgol Efrog,

Nid wyf yn siŵr a oes angen iddo fod yn llys amgylcheddol ai peidio... ond pe bawn yn gyfreithiwr, buaswn yn eistedd yma’n dweud, "Na, mae angen llys newydd arnom".