Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Do, gwelais y ffigur hwnnw ac rwy’n ddiolchgar i chi am eich ateb. Yn wir, mae’n newyddion da. Ond rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud ar y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, ac nid yw’r ystadegau ar gyfer dyfroedd mewndirol ac arfordirol lawn mor dda. Mewn gwirionedd, 37 y cant yn unig sydd mewn cyflwr ecolegol ‘da’ neu ‘ardderchog’. Rwy’n deall bod pethau fel diwydiant hanesyddol, addasiadau ffisegol a ffactorau eraill yn chwarae eu rhan, ond mae’n awgrymu, gan ddilyn ymlaen o’r hyn a ddywedoch yn awr, ein bod yn cael canlyniadau lle rydym yn gwneud ymdrech. Felly, fy nghwestiwn yw: pa fesurau rydych yn ystyried eu cyflwyno, Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn i ni allu hybu’r broses o wella ein holl ddyfroedd, gan gynnwys dŵr croyw yn benodol?