<p>Statws Ecolegol Dyfroedd Mewnol a Dyfroedd Arfordir Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:54, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun rheoli basn afon diweddaraf ar gyfer Gorllewin Cymru yn cydnabod nifer o faterion pwysig o ran rheoli dŵr, gan gynnwys addasiadau ffisegol—megis newid cyrsiau dŵr a chodi adeiladau—a grybwyllwyd gan Joyce Watson yn gynharach, sy’n effeithio ar 25 y cant o’r amgylchedd dŵr yr ardal ar hyn o bryd. Felly, pa arweiniad neu gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i awdurdodau lleol, ac yn wir, i randdeiliaid yng ngorllewin Cymru, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw addasiadau newydd a wneir yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd dŵr, a’u bod yn gynaliadwy ac mor amgylcheddol sensitif â phosibl?