<p>Blaenoriaethau ar gyfer Polisi Ynni yn y De-ddwyrain</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:57, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae’r de-ddwyrain, fel llawer o rannau eraill o’n gwlad, yn darparu cryn botensial ar gyfer cynhyrchu ynni lleol sy’n adnewyddadwy, yn ddibynadwy ac a allai fod o fudd i gymunedau lleol. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i harneisio potensial ynni afon Ebwy ar safle hen bwll glo Navigation, ac i adfer gwres entropi isel o’r hen bwll hefyd. A wnaiff hi weithio gyda’r gymuned leol yng Nghrymlyn ac eraill sydd â diddordeb i wireddu’r potensial aruthrol ar gyfer cynhyrchu ynni ar safle hen bwll glo Navigation?