Part of 3. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wrth gwrs, mae’n rhaid dechrau drwy nodi achosion damweiniau, ac mae’r cynghorydd iechyd a diogelwch yn archwilio ystâd y Cynulliad yn rheolaidd gyda swyddog undeb llafur amser llawn. Caiff unrhyw beryglon a gofnodwyd eu hasesu a’u datrys yn gyflym, gyda hyrwyddwr iechyd a diogelwch ar gyfer pob adran. Ond pan fo damweiniau’n digwydd—ac fe fyddant yn digwydd—maent yn cael eu hymchwilio gan gynghorydd iechyd a diogelwch y Comisiwn, a fydd yn datblygu argymhellion a chamau gweithredu priodol. Gwneir archwiliadau dilynol i sicrhau eu bod wedi eu rhoi ar waith yn briodol ac yn effeithiol, ond mae atal bob amser yn well na gwella, felly mae holl staff y Comisiwn yn cael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch fel rhan o’u proses gynefino, fel y mae’r Aelodau a’u staff cymorth hefyd.