Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy’n codi yn fyr iawn i ategu’r pwynt olaf a wnaeth Simon Thomas, mewn gwirionedd. Rwy’n ddiolchgar bod y mater yma wedi dod ger bron y Cynulliad—rwy’n croesawu hynny’n fawr.
Mae arloesedd yn rhywbeth yn gyffredinol rwy’n eiddgar i’n gweld ni’n gwneud mwy ohono yng Nghymru. Rwy’n meddwl bod yna rywbeth am faint Cymru—am ‘scale’ Cymru—sy’n ein gwneud ni’n lle delfrydol i arloesi mewn nifer o feysydd. Rwy’n meddwl, o ystyried pwysigrwydd byd amaeth fel rhan o’n gwead cymdeithasol ni yng Nghymru, fod amaeth yn faes amlwg iawn i geisio arloesi ynddo. Wrth gwrs, mae yna, fel yr ydym wedi clywed yn barod, ddigon o enghreifftiau o le mae yna arloesi mawr wedi digwydd, yn cynnwys yn ein sefydliadau addysg uwch ni.
Mae yna les i’r arloesi yma yn economaidd. Mae byd amaeth a’r rheini sydd yn dibynnu ar amaeth am eu bywoliaeth yn gorfod gwneud mwy efo llai y dyddiau yma, fel pobl ym mhob maes. Mae datblygiadau technolegol ac arloesedd amaethyddol yn mynd i alluogi hynny i ddigwydd. Rhywbeth sy’n perthyn i hen oes ydy ffermydd lle roedd yna luoedd o weision yn gweithio yn gwneud gwaith caled caib a rhaw. Erbyn hyn, mae gallu’r amaethwr i gael mwy am lai o fewnbwn yn fwy pwysig nag erioed. Wrth gwrs, mae yna bwysigrwydd amgylcheddol i hyn, hefyd, fel rydym ni wedi’i glywed, ac o ran bwydo’n poblogaeth ni.
Y pwynt, fel rwyf yn ei ddweud, rwyf i eisiau ei wneud, fel y gwnaeth Simon Thomas, yw: mae’n hawdd iawn meddwl rhywsut am gefn gwlad Cymru fel rhywle araf—rhywle hardd, ie, ond rhywle sydd ymhell iawn o fwrlwm arloesedd yr unfed ganrif ar hugain—ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn wir. Os ydym ni’n chwilio am brofi lle ein cefn gwlad a’n diwydiant amaeth ni yn y ganrif arloesol hon, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod y cysylltiadau yna i bobl allu cymryd rhan mewn rhannu data ac mewn rhannu gwybodaeth, ac rwy’n meddwl bod hwn yn ‘peg’, unwaith eto, i atgoffa’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, un ai mewn Llywodraeth neu o’r tu allan, fod yn rhaid ystyried cefn gwlad fel rhywle lle mae hi yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i sicrhau bod y cysylltiadau yno. Nid yw cysylltiadau corfforol yn rhywbeth sy’n dod mor amlwg i gefn gwlad. Mae cysylltiadau digidol yn hollol allweddol, ac rwy’n meddwl bod hynny ynddo’i hun yn rhywbeth pwysig iawn i’w gofio wrth inni drafod yr arloesedd sydd ei angen arnom ni yng nghefn gwlad Cymru.