Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch, Gadeirydd. Rwy’n synnu bod Lee Waters wedi gweld wynebau dryslyd, oherwydd ar ôl i chi ddwyn hyn i fy sylw yn ystod un o fy sesiynau holi fis neu ddau yn ôl, cefais lawer o bobl yn dod ataf i sôn wrthyf am amaethyddiaeth fanwl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn dda iawn ein bod wedi cael y cyfle hwn i drafod y pwnc ymhellach heddiw.
Crybwyllodd Simon Thomas yn ei sylwadau fod llawer iawn o weithgaredd yn digwydd yn y maes hwn eisoes, felly rwyf eisiau nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud a’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi iddo.
Mae arloesedd, fel ym mhob agwedd ar fywyd mewn gwirionedd, yn gwbl hanfodol er mwyn i systemau amaethyddol sicrhau gwell cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac wrth gwrs, mae’n parhau i ddigwydd yn gyflym. Mae datblygiad yn y technolegau sydd ar gael i’n ffermwyr yn golygu bod yna gyfleoedd ar gyfer ymgorffori synwyryddion clyfar, systemau lleoli manwl iawn a lloerennau mewn arferion ffermio er mwyn lleihau mewnbynnau a’u targedu at ble y mae fwyaf o’u hangen.
Dechreuodd y chwyldro mewn ffermio manwl yn y sectorau âr a garddwriaethol, gyda systemau i dargedu mewnbynnau cnydau a chynaeafu. Y dyddiau hyn, fel y clywsom, mae yna systemau hefyd i gefnogi mentrau da byw sydd, er enghraifft, yn defnyddio synwyryddion i fonitro gweithgarwch, iechyd a chynhyrchiant.
Mae’r holl dechnolegau newydd hyn yn gyrru’r ffenomen a elwir yn ddata mawr, sef y gallu i gael gwybodaeth a mewnwelediad lle nad oedd yn bosibl yn economaidd nac yn dechnegol i wneud hynny o’r blaen. Mae systemau megis synwyryddion monitro o bell, systemau lleoli byd-eang a thechnoleg DNA bellach yn gallu cynhyrchu llwyth enfawr o ddata ar gyflymder uchel.
Agrimetrics yw’r gyntaf o bedair canolfan sy’n cael eu sefydlu fel rhan o strategaeth amaeth-dechnoleg Llywodraeth y DU. Bydd yn cefnogi’r chwyldro yn y defnydd o wyddoniaeth data a modelu data ar draws sector y system fwyd. Mae integreiddio data ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, o gynhyrchiant fferm i’r diwydiant bwyd, i fanwerthwyr a defnyddwyr, i gyd yn nodau sydd gan Agrimetrics. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid a chyrff cyflenwi i ddenu cymaint ag y bo modd o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg i Gymru.
Felly, beth yw gwerth data mawr? Mae technolegau ffermio manwl yn cynnig cyfleoedd i gasglu data o ffynonellau lluosog, sydd wedyn yn creu setiau data mawr cadarn. Gellir cwestiynu’r data hwn a’i drosi’n wybodaeth a fydd yn gyrru’r don nesaf o arloesedd ar ffermydd. Ni fydd ffermwyr yn ddibynnol bellach ar daenlenni data o’u mentrau eu hunain; byddant yn gallu manteisio wedyn ar ddata cenedlaethol a byd-eang.
Mae Amaeth Cymru, grŵp partneriaeth y fframwaith strategol, a gadeirir gan Kevin Roberts, yn dod â rhanddeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfeiriad strategol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod cyn ac ar ôl Brexit. Rwy’n gweld gwaith y grŵp hwn yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r gwaith hwn wedi dod hyd yn oed yn bwysicach a mwy o frys amdano yng ngoleuni canlyniad y refferendwm.
Mae Amaeth Cymru yn datblygu map strategol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, a fydd yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein cydweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Un o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer y grŵp fydd cyfleoedd yn y dyfodol ym maes ymchwil a datblygu.
Felly, fel y dywedais, mae llawer iawn o weithgaredd ar y gweill ar hyn o bryd. Trwy Cyswllt Ffermio, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ymwneud ag amaethyddiaeth fanwl ac yn sefydlu prosiectau i ddangos ei manteision i ystod eang o systemau ffermio. Byddwn yn annog ffermwyr a choedwigwyr sy’n awyddus i wybod mwy am dechnoleg a thechnegau ffermio manwl i wneud cais am gyllid drwy bartneriaeth arloesi Ewrop i ddatblygu eu syniadau ymhellach.
Mae technegau ffermio manwl yn helpu ffermwyr i ddewis a darparu’r mewnbynnau cywir ar yr amser cywir ac ar y gyfradd gywir. Felly, mae’n bwysig iawn fod gennym y mewnbynnau hynny sydd wedi’u targedu; gall arbed arian hefyd. Er enghraifft, ar un o’n safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio yn ne Cymru, mae yna brosiect yn edrych ar y defnydd o synwyryddion gwrtaith nitrogen ar dractorau, sy’n ei gwneud hi’n bosibl gosod nitrogen mewn modd sensitif, yn ôl amrywiad yn lliw cnwd grawnfwyd. Disgrifiwyd y dechnoleg fel un sydd â’r gallu i fod yn fwy cywir o ran darparu maetholion na thechnoleg system leoli fyd-eang sy’n bodoli eisoes.
Enghraifft arall: ar safle arloesi Cyswllt Ffermio yn Aberystwyth, mae gennym brosiect rhaglen ymchwil sy’n anelu at wella dealltwriaeth o ymddygiad anifeiliaid a metaboledd, gan gynyddu cynhyrchiant a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar yr un pryd. I’r Aelodau a fynychodd y Sioe Frenhinol, ar stondin Cyswllt Ffermio, cyfarfûm â’r bobl a oedd yn gweithredu’r cynllun hwn a gwrandewais ar y manteision ac os oes unrhyw werthusiad y gallaf ei gyflwyno, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Felly, yn ychwanegol at y 12 prosiect Cyswllt Ffermio sy’n edrych yn benodol ar amaethyddiaeth fanwl ar draws Cymru, mae gennym grant cynhyrchu cynaliadwy Llywodraeth Cymru hefyd sy’n cynorthwyo nifer o ffermwyr Cymru i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i foderneiddio a gwella aneffeithlonrwydd ar eu ffermydd. Rwy’n meddwl bod y pwynt a nodwyd gan Aelod ynglŷn â ffermydd bach—credaf mai Simon Thomas a’i gwnaeth—yn bwysig iawn hefyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl gan y dechnoleg hon.
Felly, bydd y rhain a mentrau eraill sydd eisoes ar y gweill, rwy’n credu, yn rhoi Cymru yn ei lle priodol: ar flaen y gad yn y broses o ddatblygu amaethyddiaeth fanwl. Diolch.