Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Rwy’n symud ymlaen mewn bywyd ar yr oedran tywysogaidd o 48, ac fel y mae fy meibion yn dweud wrthyf o hyd, dylwn gael fy rhoi allan i bori, cymaint felly fel eu bod yn fy nghadw’n ddigon pell oddi wrth y darn o offer data mawr diweddaraf sydd gennym, a elwir yn Scorpion, rhag y difrod y gallwn ei wneud ag ef. Ond mae’n bwynt pwysig, fod angen i ni addysgu a chaniatáu i bobl ddatblygu drwy’r diwydiant fel y gallant wneud defnydd o’r data hwn, oherwydd nid oes unrhyw bwynt eu cael os na allwch eu defnyddio.