7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:59, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Clywsom gan nifer o berchnogion busnesau bach sy’n dweud wrthym, fel gwleidyddion, i wrando arnynt, ac mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chonsortiwm Manwerthu Cymru hefyd wedi ymuno i alw am ddiwygio’n sylfaenol yr hyn y buaswn yn ei ddweud sy’n system ardrethi busnes hen ffasiwn. Siaradodd Megan yn y Drenewydd am y posibilrwydd o orfod symud ei busnes i Swydd Amwythig, lle y buasai’n gallu cael rhyddhad ardrethi llawn, a siaradodd Alex yn Wrecsam am fenthyca arian gan y teulu er mwyn talu’r ardrethi busnes. A holodd Chris a Katia a ddylid gosod ardrethi busnes ar unwaith wrth i fusnesau gychwyn, busnesau sydd, wrth gwrs, yn chwarae eu rhan bwysig yn lleihau nifer y siopau gwag mewn ymgais i wrthdroi dirywiad y stryd fawr.

Nawr, roedd toriad treth ar gyfer busnesau bach yn addewid a bedlerwyd yn helaeth gan ymgeiswyr Llafur cyn etholiad y Cynulliad—addewid a dorwyd yn y flwyddyn gyntaf, byddwn yn dweud. Aeth yr Aelod Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Eluned Morgan—rwy’n sylweddoli nad yw yn ei lle heddiw—i gaffi a siop lyfrau Hours yn Aberhonddu gan addo y byddai busnesau, ac rwy’n dyfynnu datganiad i’r wasg y Blaid Lafur, yn anadlu ochenaid o ryddhad os dychwelir Llafur i rym ar Fai 5 gan y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn cwtogi’r ardrethi busnes a delir gan fusnesau bach ym Mhowys. Mewn gwirionedd, ni allai dim fod ymhellach o’r gwir. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri’r addewid hwn o doriad treth i fusnesau bach a chanolig a honnodd mai parhau â chynllun sydd eisoes wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd yw’r toriad treth. Nawr, dyma beth y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi’i ddweud am hyn, ac rwy’n eu dyfynnu hwy:

mae disgrifio penderfyniad o’r fath fel toriad treth ar gyfer busnesau bach yn gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.

Yn lle’r toriad treth a addawyd ganddynt, byddai rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn 2017-18 yn aros yn union yr un fath ag yn 2016-17, ac mae llawer o gwmnïau bach bellach yn wynebu cynnydd dramatig yn eu biliau, wrth gwrs, yn dilyn ailbrisio ardrethi. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, lle y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu’r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach er mwyn sicrhau na fuasai unrhyw fusnes sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn talu ardrethi o gwbl. Nawr, hoffwn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, dilynwch arweiniad Llywodraeth y DU, ond mewn gwirionedd, buasai’n well gennyf ddweud, os gwelwch yn dda gadewch i ni gael gwell system yng Nghymru er mwyn cynyddu a chefnogi busnesau bach yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn uchelgeisiol. Gadewch i ni gael y system orau o blith holl wledydd y DU er mwyn cefnogi busnesau bach.

Rwy’n sylweddoli y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet a minnau farn wahanol ar beth yw toriad treth, ond rwy’n gwerthfawrogi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn agored i ddiwygio ac edrychaf ymlaen at glywed ei sylwadau. Gobeithiaf y bydd yna dir cyffredin y gallwn gytuno arno, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau eraill yn ystod y ddadl y prynhawn yma.