Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Rwy’n cytuno; roedd hwnnw’n fater a ddaeth i’n sylw. Rwy’n credu mai rhan o’r broblem yw bod yna ddryswch rhwng—. Nid yw’n broblem i Lywodraeth Cymru yma, ond y swyddfa brisio sy’n gosod y prisiad, yr awdurdod lleol sy’n casglu’r arian, ac yna mae Llywodraeth Cymru yn dosbarthu’r arian yn ganolog. Rwy’n credu nad yw busnesau’n deall hynny, a dyna ran o’r broblem. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn yn gyfan gwbl, ond dyna ran o’r broblem sy’n achosi llawer o’r dryswch, rwy’n credu.