7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:30, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, er nad oeddwn yn cymryd rhan yn y ddadl tan oddeutu hanner awr yn ôl, ond erbyn hyn rwy’n gwneud hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gall y Siambr fod yn amyneddgar â mi. Ond mae’n fater pwysig iawn, ac mae’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn cyffwrdd ar—fel yr amlygodd yr Aelod dros Gastell-nedd—adfywio’r stryd fawr a phwysigrwydd sicrhau bod yr adfywio hwnnw’n seiliedig ar fusnesau hyfyw gydag arian parod yn mynd drwy eu busnesau. Ardrethi busnes yw un o’r systemau symlach sy’n mynd ag arian oddi wrth fusnesau bach y mae taer angen iddynt gadw arian i greu swyddi a chreu cyfleoedd ar gyfer buddsoddi.

Nid mater o’r Blaid Geidwadol yn dod yma ac yn mynnu bod y Gweinidog yn gwneud pethau a rhoi rhestr o ddymuniadau o’i flaen yw hyn, fel sy’n gallu digwydd yn aml iawn yma ar brynhawn dydd Mercher, gan fod gan y Ceidwadwyr, a bod yn deg, hanes da, boed ym maes ardrethi busnes neu adfywio’r stryd fawr. Cyflwynodd David Melding, pan oedd yn llefarydd busnes a’r economi, yn ôl yn 2009, rwy’n meddwl—yn y trydydd Cynulliad—ein polisi ardrethi busnes o gyflwyno rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau gwerth hyd at £12,500, a’i leihau’n raddol i rai gwerth hyd at £15,000. Mewn dadl ar ôl dadl yn y Siambr hon, difrïodd Gweinidog yr Economi ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, yr honiadau hynny a dweud ei bod yn gwbl afresymol gofyn am hynny i fusnesau, ac yn y pen draw, trodd Llywodraeth Cymru glust fyddar i’r apeliadau hynny dro ar ôl tro—apeliadau a seiliwyd ar sylwadau a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a llawer o fusnesau a siambrau masnach o amgylch Cymru. Ac eto dyma ni, yn 2016, gydag ailbrisiad newydd ddigwydd sy’n gosod marc cwestiwn mawr dros hyfywedd llawer iawn o fusnesau bach a chanolig eu maint ar y stryd fawr ar hyd a lled Cymru.

Rwy’n sylweddoli, o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe pan oedd yn cyffwrdd â’r pwynt hwn, ei fod i’w weld yn credu mai dim ond o’r Bont-faen a Bro Morgannwg a Sir Fynwy drwy Nick Ramsay y mae’r sylwadau’n dod, a sylwadau eraill o Sir Fynwy. Rhaid i mi ddweud bod y sylwadau a dderbyniais yn y cyfarfodydd rwyf wedi’u mynychu fel pe baent â’r broblem hon ar draws Cymru gyfan, ac mae’n fater y mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb iddo. Dyna, yn sicr, yw ein rôl: dod yma a gwneud Llywodraeth y dydd yn ymwybodol o gynnwys ein bagiau post ac yn ymwybodol o’r sylwadau rydym yn eu cael.

Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn defnyddio cyfle’r ddadl hon heddiw. Yn amlwg, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant—gwelliant ‘dileu popeth’—ond rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei anerchiad i’r Siambr y prynhawn yma, yn defnyddio hynny’n gadarnhaol i amlinellu’r mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Rwy’n deall y bydd yn pwyso ar y gronfa drosiannol gwerth £10 miliwn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hyd yma, ond mae busnesau ac arweinwyr busnes yn dweud yn glir ei bod hi’n amlwg nad yw honno’n ateb anghenion busnesau gyda’r ymarferiad prisio sydd wedi’i wneud, a’r biliau y mae busnesau bach ar y stryd fawr, yn arbennig, yn eu hwynebu ac y bydd yn rhaid iddynt eu talu o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mewn rhai ffyrdd, roedd yn galonogol gweld y Prif Weinidog ddoe yn cyfeirio mewn gwirionedd at y ffaith y gallai fod—gallai fod—ychydig bach o symud yn y maes hwn. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog Cyllid yn defnyddio’i ymateb i’r ddadl heddiw i ddod â rhywfaint o oleuni efallai i’r twnnel hwn. Gallwn ddadlau a yw’r system yn Lloegr yn well na’r system yng Nghymru. Y ffaith amdani yw na fydd miloedd lawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru yma yr adeg hon y flwyddyn nesaf os nad chânt fwy o gymorth. Dylai hynny, yn sicr, ei gwneud yn hanfodol fod y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Hoffwn dreulio ychydig o amser hefyd yn fy anerchiad, beth bynnag am rinweddau’r cynllun a gyflwynwyd hyd yma gan Lywodraeth Lafur Cymru yma, yn ystyried proses apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n faes arall y nodwyd wrthyf ei fod yn achos pryder, ac yn arbennig y cyfnod o amser y mae’r swyddfa brisio yn ei gymryd i ymateb i geisiadau gan fusnesau a’r amser y mae’n ei gymryd i fusnesau fynd ar wefan y swyddfa brisio i weld mewn gwirionedd beth yw eu prisiad newydd, a gweld y dystiolaeth ddogfennol ynglŷn â sut y pennwyd y prisiad hwnnw. Cyfeiriaf at—ac fel y dywedais, pe bawn i wedi sylweddoli fy mod yn siarad, yn sicr buaswn wedi dod â’r llythyr a gefais ddoe gan yr Hare and Hounds yn Aberthin, sef tafarn y mae rhai pobl yn y siambr hon yn gyfarwydd â hi o bosibl, ar y cynnydd sylweddol y maent yn ei wynebu yn eu hardrethi busnes. Tynnodd y sawl a’i hysgrifennodd fy sylw at y cyfnod o amser y byddai’r broses y byddai’n rhaid iddynt fynd drwyddi’n rhan o’r drefn apelio yn ei chymryd, er mwyn deall yn y lle cyntaf sut y gallent apelio ac yna’r ffordd, y fethodoleg, roedd y swyddfa brisio wedi’i defnyddio i bennu’r cynnydd sylweddol yn yr ardrethi busnes. Mae hwn yn fusnes sy’n wynebu gorfod talu’r ddyled honno mewn ychydig dros bedwar mis, ac felly, byddwn yn gobeithio eto y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni yn ei ymateb heddiw ynglŷn â pha lefel o gefnogaeth a dealltwriaeth y gall y swyddfa brisio eu rhoi i fusnesau yn y broses apelio, a hefyd i roi hyder i’r Aelodau na fydd busnesau yn cael eu cosbi os dônt o hyd i rwystrau a roddwyd yn eu ffordd wrth symud yr apeliadau hynny yn eu blaen. Ac rwy’n annog y Siambr heddiw i gefnogi’r cynnig sydd ger ein bron sy’n ceisio rhoi’r astell honno o gefnogaeth ar y llawr i fusnesau bach gerdded ar ei thraws ac yn y pen draw, i fod yno yr adeg hon y flwyddyn nesaf.