Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? Mae’n ddadl amserol iawn o ystyried bod canlyniadau ailbrisiad ardrethi mis Ebrill nesaf yn dod yn amlwg bellach—a byddwn yn dweud mai ond yn ddiweddar y daethant yn amlwg, yn sicr i’r busnesau ar lawr gwlad sy’n mynd i wynebu codiadau.
Fel y dywedodd Russ George wrth agor, mae’r sefyllfa rydym ynddi yma yn gwrthgyferbynnu’n uniongyrchol â’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu’r rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach, gan sicrhau na fyddai unrhyw gwmni sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Clywais yr hyn y mae nifer o’r Aelodau wedi’i ddweud yn y Siambr y prynhawn yma, yn beirniadu’r sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr. Yn sicr, nid yw’n berffaith. Nid oes unrhyw system drethiant a fu erioed yn berffaith, na threfn ailbrisio ardrethi busnes yn wir, ond nid oes amheuaeth o gwbl fod busnesau yn fy etholaeth yn edrych ar draws y ffin ac yn gweld agweddau ar y ffordd y mae’r ailbrisio wedi cael ei drin yn Lloegr sy’n well na’r hyn sydd wedi digwydd yma neu’n sicr yn well na’r hyn sy’n cael ei addo yma. Felly, buaswn yn cadw hynny mewn cof. Yn amlwg, nid yw’n sefyllfa berffaith dros y ffin, ond rwy’n meddwl y byddai’n werth i Lywodraeth Cymru edrych dros y ffin ac edrych ar ffyrdd y gallwn wella’r math o gefnogaeth sydd gennym yma.
Mae’r busnesau rwyf wedi siarad â hwy—ac mae llawer ohonynt; nid oes gennyf ond llond llaw o’r negeseuon e-bost a gefais yn ystod y diwrnodau diwethaf. Ers cael fy ethol i’r Cynulliad, ni allaf gofio cael mater sydd wedi achosi’r fath loes mewn cyfnod mor fyr o amser ac sydd wedi cynhyrchu’r fath lwyth o negeseuon e-bost. Gallaf weld David Rowlands yn nodio; mae’n amlwg nad yw’n sefyllfa sy’n effeithio ar fy swyddfa i yn unig. Yn wir, mae yna ddicter allan yno. Mae yna anobaith, buaswn yn dweud. Rwyf hyd yn oed wedi cael gwahoddiad i arwerthiant cau siop yn Nhrefynwy ar gyfer mis Ebrill/mis Mai nesaf, wedi i hyn ddod i rym. Felly, na foed i ni fod dan unrhyw gamargraff o gwbl ynglŷn â maint y pryder a’r gofid sydd allan yno ar draws Cymru yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y codiadau hyn.
Rwy’n sylweddoli nad yw hon yn broblem ar draws Cymru gyfan. Nid ydym yn dweud ei bod. Yn sicr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna fusnesau sydd wedi gwneud yn eithaf da mewn gwirionedd yn sgil ailbrisio ardrethi busnes. Dyna agwedd ar unrhyw ymarfer ailbrisio; byddech yn disgwyl hynny. Rwy’n credu mai’r hyn nad ydym wedi’i weld o’r blaen yw maint y niwed i’r lleiafrif mawr o fusnesau yr effeithir arnynt. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n dod yn glir, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei gyfraniad, yw bod nifer y busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y broblem hon yn cynyddu bellach. Nid oeddem yn gwbl ymwybodol o nifer yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Gwyddem fod y Bont-faen wedi cael ei heffeithio. Gwyddwn fod Trefynwy wedi’i heffeithio. Ond gwn yn awr fod Cas-gwent wedi’i heffeithio ac ardaloedd gwledig eraill, felly mae hon yn broblem lawer mwy nag a ragwelwyd gennym ar y cychwyn.
Mae’r busnesau yr effeithiwyd arnynt yn wynebu naid enfawr—10 y cant mewn rhai achosion. Wrth gwrs, fel rydym wedi dweud—. Ac yn uwch na hynny mewn rhai achosion eraill; gwn am un busnes yng Nghas-gwent sy’n wynebu cynnydd hyd at 100 y cant oherwydd gwahanol amodau. Mae hyn wedi’i waethygu gan y lluosydd, y deallaf ei fod yn amod angenrheidiol yn sgil cynnal agwedd niwtral o ran refeniw tuag at ailbrisio. Serch hynny, mae’r lluosydd yn effeithio ar hyn ac felly hefyd, wrth gwrs, absenoldeb system ddigonol o ryddhad ardrethi y mae angen i’r busnesau hynny ei gweld.
Gadewch i ni fod yn onest, fel y mae nifer o’r Aelodau ar draws y Siambr wedi bod, am yr hyn rydym yn sôn amdano yma: nid yw hyn yn ddim llai na’r hoelen yn yr arch i lawer o fusnesau ar draws y wlad. Rydym yn siarad llawer yn y Siambr hon, fel y dywedodd Mohammad Asghar, am yr angen i gefnogi busnesau, am safleoedd manwerthu, am yr angen i adfywio ein strydoedd mawr. Rydym wedi cael dadleuon ar hynny a’r pleidiau eraill hefyd, ac rydym wedi cael adroddiadau pwyllgor ar adfywio ein strydoedd mawr, ond ni fydd diben i hyn yn y pen draw os nad awn i’r afael â’r broblem y mae ein busnesau yn ei hwynebu, nid mewn 10 mlynedd neu 20 mlynedd, ond y flwyddyn nesaf, pan ddaw hyn i rym yn llawn. Felly, oni bai ein bod yn mynd benben â’r broblem hon yn awr, bydd llawer o’r trafodaethau eraill rydym wedi eu cael yn y Siambr hon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ddiddordeb academaidd yn unig.
Fel y mae ein cynnig yn ei amlygu, mae cyfradd bresennol y siopau gwag eisoes bron yn 14 y cant, gyda’r gyfradd a ragwelir o siopau’n cau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf. Felly, yn anffodus, nid ydym yn cychwyn o le gwych ar ddechrau’r broses hon. Felly, ni allwn fforddio i bethau waethygu. Ni allwn fforddio peidio â mynd benben â’r broblem hon a gwneud yn siŵr fod y cwmnïau hyn, y busnesau hyn, sydd angen cefnogaeth, yn ei gael.
Adam Price—yn eich sylwadau, Adam, fe wnaethoch nifer o bwyntiau diddorol iawn mewn gwirionedd, yn galw am ailwampio’r drefn ardrethi busnes yn ei chyfanrwydd, trefn a ddisgrifiwyd gennych fel treth 400 oed. Ac wrth gwrs, mae’n gynnig deniadol i gael gwared ar dreth anflaengar. Y cwestiwn go iawn, wrth gwrs, yr aethoch ymlaen i siarad amdano, yw beth rydych yn ei gael yn ei lle, ac fe awgrymoch dreth tir fel un posibilrwydd. Ac wrth gwrs, os nad ydych yn poeni am golli’r incwm os byddwch yn cael gwared ar y dreth—rhywbeth na allai Llywodraeth Cymru fforddio’i wneud, wrth gwrs, felly byddai arnom angen pethau yn ei lle, a soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am hyn hefyd.
Felly, clywsom rai opsiynau a ddarparwyd fel dewis arall, ac rwy’n meddwl ein bod i gyd yn cytuno bod hyn yn bendant yn werth ei archwilio; rydym yn cytuno â’r agwedd honno ar eich cynnig. Ni ddylem gau’r drws ar ddiwygio ardrethi busnes yn llwyr yng Nghymru ac fel y dywedoch, gan ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, un o ganlynebau hynny, mewn gwirionedd, yw y gallwn yn awr edrych ar y ffordd y mae trethiant yn gweithio yng Nghymru a gallwn ystyried gwneud rhywbeth yma na fyddai wedi bod yn bosibl ychydig flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o waith ar hyn, a’r hyn rydym yn sôn amdano bellach yw darparu cymorth uniongyrchol i’r busnesau yr effeithir arnynt, nid y flwyddyn nesaf, nid ymhen dwy flynedd, ond yn awr.
Rydym yn siarad llawer yn y Siambr hon, ond nid wyf yn meddwl bod yna achos wedi bod erioed lle y mae mwy o angen gweithredu nag yn awr—a gweithredu ar unwaith. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders—wel, darparodd Janet Finch-Saunders gyflwyniad o bolisi’r Ceidwadwyr Cymreig ers yr etholiad, a chyn hynny. Fe wnaethoch achos cryf dros ben, Janet—gwn eich bod wedi cael profiad uniongyrchol o hyn yn Llandudno yn eich etholaeth—achos cryf iawn dros ddarparu llawer mwy o gymorth go iawn i fusnesau bach a safleoedd manwerthu ar draws Cymru. Roedd eich neges yn syml iawn yn y bôn ac wrth gwrs, mae hon yn broblem eithaf syml mewn gwirionedd sy’n galw am ateb syml, sef mwy o gymorth.
Hoffwn dynnu eich sylw, Jeremy Miles—rwy’n cytuno gyda rhai o’r pethau a ddywedoch, mewn gwirionedd, ond roeddech yn cwestiynu faint o gefnogaeth i fusnesau a fyddai yn natganiad yr hydref heddiw, a hoffwn nodi bod y Canghellor wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad ardrethi gwledig yn Lloegr yn cael ei gynyddu’n sylweddol. Felly, yn Lloegr, maent yn ystyried darparu llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer busnesau mewn ardaloedd gwledig ar draws y ffin, felly rwy’n meddwl na fyddai unrhyw beth llai yma yng Nghymru yn ddigon da. Ac fel y dywedodd Russell George wrth agor y ddadl, pam y bodlonwn ar ail orau? Pam nad ydym yn sicrhau bod y system rydym yn mynd i’w chael yma yng Nghymru o’r safon orau mewn gwirionedd—o’r safon orau yn y DU o leiaf? Mae angen i hyn fod yn fwy nag ateb digonol i’r broblem; gadewch i ni wneud rhywbeth yn y fan hon a allai roi’r cymorth i fusnesau yng Nghymru ar yr un sylfaen mewn gwirionedd â busnesau ledled y DU a’u rhoi ar y blaen. Rydym wedi bod yn siarad am hynny ers amser hir iawn, ond fel y dywedais, mae’n bryd gweithredu bellach.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch i ni fod yn uchelgeisiol dros Gymru. Gadewch i ni ddefnyddio’r broblem hon, y broblem hon yn y tymor byr, tymor canolig, i symud ymlaen a darparu system sy’n gallu goresgyn heriau heddiw a heriau’r dyfodol. Gadewch i ni gymell economïau lleol, gadewch i ni wneud yn siŵr fod ein busnesau yn y sefyllfa orau i allu goresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu. Ond os na allwn oresgyn y rhwystr hwn a wynebwn dros yr ychydig fisoedd nesaf, yna rydym yn mynd i’w chael yn anodd iawn goresgyn y rhwystrau y bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn eu rhoi yn ein ffordd.