8. 8. Dadl Plaid Cymru: Cyflogau’r Sector Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 5:00, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf barhau, gan fy mod yn credu y byddai’n wych pe bai’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf a’r cyflogau isaf yn y sector cyhoeddus—pe bai eu cyflogau wedi’u cysylltu. Yn y ffordd honno, byddai Nick Bennett ac eraill sy’n rhoi codiadau cyflog i’w hunain yn gweld cyflogau’r bobl ar y cyflogau isaf yn y sefydliad yn cynyddu hefyd. Pe bai toriad cyflog ar y gwaelod, byddai toriad cyflog ar y brig hefyd.

Nawr, byddwn yn annog y Cynulliad hwn a’r Llywodraeth i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac ystyried cyflwyno Deddf cyflogau teg yn y dyfodol. Diolch yn fawr. Diolch.