Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, mae gennym ni’r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol eisoes ar waith ym mhob ysbyty. Cydnabuwyd gwaith ymwybyddiaeth ac addysg madredd GIG Cymru gan y Gynghrair Fadredd Fyd-eang yng Ngwobrau Madredd Byd-eang 2016, rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n ei groesawu’n fawr iawn. Ond, wrth gwrs, mae'n dal yn wir bod llawer nad ydynt yn cael diagnosis mewn pryd gan ei fod yn gyflwr anodd gwneud diagnosis ar ei gyfer—cydnabyddir hynny. Ond mae'n hynod bwysig bod gennym ni gysondeb ar draws ein hysbytai o ran sut y nodir madredd yn gynnar, ac mae’r system honno yn rhywbeth sydd ar waith ac yn cael ei defnyddio’n eang ar draws GIG Cymru.