1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal madredd? OAQ(5)0300(FM)
Mae mynd i'r afael â madredd yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau diogelwch cleifion yng Nghymru. Mae nodi a diagnosis cynnar yn hanfodol i atal y cyflwr rhag gwaethygu ac i ddarparu triniaeth briodol a phrydlon. Mae Cymru wedi ei chydnabod ar lefel byd-eang am ei gwaith ym maes ymwybyddiaeth ac addysg madredd.
Diolch. Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Dr Tamas Szakmany yr wythnos hon wedi canfod y derbyniwyd dros 7,500 o bobl i ysbytai yng Nghymru yn dioddef o fadredd, gan arwain at fwy na 1,500 o farwolaethau. Mae hynny'n fwy na chanser y fron a’r brostad gyda’i gilydd. Mae hefyd yn tynnu sylw at rywfaint o amrywiad o ran sut y mae timau clinigol yn ymateb i fadredd, gan, o 290 o gleifion a oedd yn dangos arwyddion o fadredd, dim ond 12 y cant gafodd eu sgrinio i ddechrau a'u trin yn unol ag arfer gorau. Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn disgrifio’r effeithiau sinistr sy’n deillio o glefyd mor beryglus, sy'n bygwth bywyd, gan gynnwys trychiadau a llawer o ganlyniadau sy’n newid bywyd—os byddwch chi’n goroesi, hynny yw. Un thema gyffredin yw diffyg ymwybyddiaeth amlwg, yn enwedig mewn lleoliad iechyd, a'r rhan dristaf o hyn yw y gellid atal neu drin y rhan fwyaf o achosion gyda gwrthfiotigau os cânt eu dal yn ddigon cynnar, yn enwedig yn dilyn ymlaen o—
A allwch chi ddod at gwestiwn os gwelwch yn dda?
Mae Lloegr wedi lansio ymgyrch iechyd y cyhoedd 'Could it be Sepsis?'. Gogledd Iwerddon 'Just say Sepsis'—
Mae angen gofyn y cwestiwn.
Sut ydych chi, fel Prif Weinidog, yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffygion a’r anghysondebau sy'n amlwg yma yng Nghymru a sut ydych chi’n bwriadu gwneud hyn ar unwaith?
Wel, mae gennym ni’r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol eisoes ar waith ym mhob ysbyty. Cydnabuwyd gwaith ymwybyddiaeth ac addysg madredd GIG Cymru gan y Gynghrair Fadredd Fyd-eang yng Ngwobrau Madredd Byd-eang 2016, rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n ei groesawu’n fawr iawn. Ond, wrth gwrs, mae'n dal yn wir bod llawer nad ydynt yn cael diagnosis mewn pryd gan ei fod yn gyflwr anodd gwneud diagnosis ar ei gyfer—cydnabyddir hynny. Ond mae'n hynod bwysig bod gennym ni gysondeb ar draws ein hysbytai o ran sut y nodir madredd yn gynnar, ac mae’r system honno yn rhywbeth sydd ar waith ac yn cael ei defnyddio’n eang ar draws GIG Cymru.
Brif Weinidog, mae’r ymchwiliad cyfrinachol cenedlaethol, fel y soniwyd nawr, i ganlyniadau a marwolaeth cleifion, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015, yn dweud bod madredd yn lladd mwy o bobl na chanser y fron, y coluddyn a’r brostad gyda’i gilydd yn y DU. Mae'r adroddiad yn argymell bod mwy o feddygon a nyrsys yn defnyddio systemau rhybudd cynnar a rhestrau gwirio sgrinio i'w hannog i chwilio am arwyddion o fadredd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn dweud bod ganddo feddwl agored ynghylch ystyried pa un a ddylid gwneud i ysbytai sgrinio cleifion â symptomau yn yr un modd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn sicrhau dull gweithredu cyffredinol a chyson o sgrinio ar gyfer madredd?
Gwnaf. Mae'r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol yn rhan o'r dull cyson hwnnw. Mae pob ysbyty yn ei defnyddio. Mae'n system syml sy'n galluogi staff i asesu pa un a yw cleifion yn datblygu madredd, a, hefyd, mae parafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn defnyddio’r system honno i ddatblygu systemau i sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty. Hefyd, mae staff yn defnyddio sgrinio safonol ar gyfer madredd i nodi madredd ac annog gweithredu cyflym, a elwir y 'Sepsis Six Bundle'. Ac, felly, rydym ni’n parhau i ddatblygu'r gwaith a wnaed eisoes yn ystod y pedair blynedd diwethaf i sicrhau bod mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar o fadredd a bod llai o bobl yn colli eu bywydau o’i herwydd.
Brif Weinidog, gyda bron i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, llawer ohonynt y gellid eu hatal, madredd yw un o'r lladdwyr mwyaf nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono. Er bod addysgu'r cyhoedd i adnabod yr arwyddion, a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y GIG i atal dechreuad madredd yn hanfodol, mae sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn adnabod yr arwyddion hefyd yn bwysig. Mae llawer o oroeswyr madredd yn fyw diolch i feddyg teulu a adnabyddodd ddechreuad madredd yn gynnar. Felly, Brif Weinidog, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn cael hyfforddiant i adnabod arwyddion yn ogystal â sut i'w atal?
Gan ymhelaethu ar yr hyn yr wyf newydd ei grybwyll, soniais am y bwndel Sepsis Six. Mae hwnnw'n cynnwys tri phrawf cyflym ar gyfer madredd, tair triniaeth syml y profwyd eu bod yn ei ymladd ac a all helpu i ganfod a thrin y salwch ar ei gamau cynharaf. Ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o fadredd, ac, yn wir, maen nhw, ac, yn wir, yn chwilio am yr arwyddion cynharaf, er y gall fod yn anodd gwneud diagnosis a’i drin, yn enwedig ar y camau cynnar.