<p>Ardrethi Busnes</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:35, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gan edrych ymlaen at gynigion ar gyfer trefniadau ardrethi busnes newydd ar ôl 2018, a all y Prif Weinidog roi arwydd o’i syniadau am glybiau chwaraeon cymunedol? Deallaf, ar y funud, bod trothwy lle mae’n rhaid i 70 y cant o aelodau clybiau o'r fath fod yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau’r clwb hwnnw i fod yn gymwys i gael rhyddhad. Mae'n ymddangos yn drothwy uchel iawn, o ystyried cynlluniau a strategaethau ehangach ar gyfer mwy o hyrwyddo ymarfer corff, yn enwedig ymhlith pobl iau. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Prif Weinidog roi awgrym o’i syniadau ar y mater hwnnw.