1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y system ardrethi busnes? OAQ(5)0290(FM)
Gwnaf. Mae'r system ardrethi annomestig yng Nghymru yn cyfrannu mwy na £1 biliwn tuag at ariannu gwasanaethau lleol yng Nghymru.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gan edrych ymlaen at gynigion ar gyfer trefniadau ardrethi busnes newydd ar ôl 2018, a all y Prif Weinidog roi arwydd o’i syniadau am glybiau chwaraeon cymunedol? Deallaf, ar y funud, bod trothwy lle mae’n rhaid i 70 y cant o aelodau clybiau o'r fath fod yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau’r clwb hwnnw i fod yn gymwys i gael rhyddhad. Mae'n ymddangos yn drothwy uchel iawn, o ystyried cynlluniau a strategaethau ehangach ar gyfer mwy o hyrwyddo ymarfer corff, yn enwedig ymhlith pobl iau. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Prif Weinidog roi awgrym o’i syniadau ar y mater hwnnw.
Ydym, rydym ni’n ymwybodol o'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae'n rhan o'n syniadau wrth i ni ddatblygu system barhaol o 2018 ymlaen.
Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rydym ni wedi clywed am y cwestiwn o ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau mewn ardrethi busnes, yn enwedig mewn meysydd fel Tata Steel, lle’r oedd gennym ni’r ffwrnais chwyth. A yw eich Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i edrych ar ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau yn yr ardrethi busnes, er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad ddod i mewn i ddiwydiannau, fel y diwydiant dur, ac na fyddant yn cael eu cosbi o ganlyniad?
Mae'n rhywbeth a ystyriwyd gennym gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'n faes cymhleth iawn. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn hytrach, wrth gwrs, yw rhoi pecyn mwy hael ar y bwrdd i Tata nag y byddai rhyddhad ardrethi busnes yn ei gynnig. Felly, byddwn yn dadlau bod yr hyn sydd gennym ni ar y bwrdd yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y byddai rhyddhad ardrethi busnes ar offer a pheiriannau yn gallu ei gynnig yn y lle cyntaf, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau a'r amser y byddai'n ei gymryd i roi system o'r fath ar waith.
Yng ngoleuni eich ateb i mi yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, yn dweud y byddech chi’n gallu rhoi ystyriaeth lawn, ar ôl datganiad yr hydref, i gynyddu cyllid ar gyfer cymorth i fusnesau bach, sut bydd eich Llywodraeth yn defnyddio arian canlyniadol y gyllideb o gyhoeddiad y Canghellor y bydd yn ymestyn y rhyddhad ardrethi gwledig i 100 y cant, gan roi gostyngiad treth o hyd at £2,900 i fusnesau bach yn Lloegr?
Wel, mae'r arian refeniw canlyniadol yn fach iawn—tua £35 miliwn, y mae £20 miliwn ohono wedi ei gyhoeddi eisoes. Felly, nid ydym ni wedi cael ein boddi mewn haelioni gan Lywodraeth y DU pan ddaw i gyllid refeniw. Serch hynny, byddwn yn edrych i weld sut y gellir defnyddio’r arian yn y modd gorau er lles pobl Cymru.
Brif Weinidog, rwyf wedi cael etholwyr di-ri yn ysgrifennu ataf am ardrethi busnes—perchnogion busnesau bach, pobl sy’n rhedeg siopau annibynnol—ac maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod ardrethi busnes eich Llywodraeth yn bygwth eu busnesau, y gallent olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau neu, yn sicr, diswyddo pobl. Pam ydych chi’n niweidio busnesau bach yn fy rhanbarth i?
Wel, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Aelod gofio mai’r tro diwethaf y bu ailbrisiad oedd pan roedd ei blaid ef mewn Llywodraeth. Ni chlywais unrhyw gwynion bryd hynny. Mae'n iawn i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, bod problemau penodol y bydd angen mynd i'r afael â nhw, ond mae hyn yn niwtral o ran refeniw. Nid ffordd i’r Llywodraeth gael mwy o arian yw hon. Mae’n ffordd o ailgydbwyso'r system ardrethi busnes heb fod elw net i'r Llywodraeth. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod y bydd rhai rhannau o Gymru lle mae pethau’n anodd, a dyna pam yr ydym ni eisoes wedi cyhoeddi cynllun rhyddhad trosiannol o £10 miliwn, a byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud er mwyn gwneud y broses bontio yn ddidrafferth.