Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rydym ni wedi clywed am y cwestiwn o ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau mewn ardrethi busnes, yn enwedig mewn meysydd fel Tata Steel, lle’r oedd gennym ni’r ffwrnais chwyth. A yw eich Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i edrych ar ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau yn yr ardrethi busnes, er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad ddod i mewn i ddiwydiannau, fel y diwydiant dur, ac na fyddant yn cael eu cosbi o ganlyniad?