<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:44, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod wedi codi'r pwynt yna am yr Alban, gan fod gwahardd ffioedd gosod yno wedi dangos, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bod rhenti yng Nghymru a'r Alban wedi cynyddu ar gyfradd sylweddol is nag yn Lloegr dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae rhenti yn yr Alban wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae'n dangos nad yw'r gwaharddiad hwn ar ffioedd gosod yn cynyddu rhenti mewn gwirionedd. Nawr, rydych chi'n iawn—gwaharddwyd y ffioedd hyn gan yr Alban yn 2012. Felly, faint yn hwy y mae’n rhaid i denantiaid yng Nghymru aros? Byddwn wedi meddwl bod pedair blynedd yn ddigon hir. Y ffaith yw eich bod wedi bod yn arafach fyth ar y cwestiwn cyfiawnder cymdeithasol hanfodol bwysig hwn na’r Torïaid yn San Steffan hyd yn oed.

Nawr, Brif Weinidog, mae perchentyaeth yn dod yn fater hollbwysig i’r genhedlaeth hon o bobl ifanc; mae'n mynd bron yn amhosibl cael troed ar yr ysgol eiddo. Talu eu rhent yw’r brif flaenoriaeth nawr, ac, yn y sector rhentu, gall symud cartref arwain at gyfres o ffioedd na ellir eu cyfiawnhau, wrth i ymarfer siopa cudd Shelter Cymru rai blynyddoedd yn ôl awgrymu y gall gostio hyd at £1,000 yn ychwanegol. Oni bai fod camau’n cael eu cymryd, dim ond Cymru fydd â’r ffioedd gosod hyn. Byddwn yn croesawu ymrwymiad pendant gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog, yn egluro i ni sut yr ydych chi’n mynd i wahardd y ffioedd asiantau gosod hyn. A wnewch chi roi’r ymrwymiad hwnnw i ni heddiw?