Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Gallaf ddweud bod hyn yn rhywbeth sydd o dan ystyriaeth weithredol. Rwy’n deall y pwynt y mae hi'n ei wneud; byddai'n edrych yn rhyfedd i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod er nad ydynt gan Loegr a'r Alban. Ceir rhywfaint o dystiolaeth bellach o'r Alban nad oedd yr effaith o ran y cynnydd rhent mor fawr ag yr ofnwyd, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn cael effaith gref iawn ar y camau y byddwn ni’n eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf.