Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, y llynedd, cynigiodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), ond fe wnaethoch chi wrthod manteisio ar y cyfle i wahardd ffioedd gosod gormodol bryd hynny, yn groes i ddymuniadau'r rhai ar eich meinciau cefn eich hun, mae’n debyg. Ac nid gwahardd ffioedd asiantau gosod gormodol yw'r unig fater y mae eich meinciau cefn wedi dymuno pleidleisio gyda gwelliannau Plaid Cymru i wella deddfwriaeth; roeddem ni eisiau gwahardd contractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol. Ond mae’n ymddangos bod esgus bob amser, Brif Weinidog: naill ai nid yw’r pŵer gennych chi, neu ni chafodd y gwelliant ei ddrafftio’n gywir, neu, fy ffefryn i, 'Nid ydym wedi ymgynghori ar y mater’, hyd yn oed ar ôl 17 mlynedd o fod mewn grym. Pam, Brif Weinidog, pan fydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno polisïau sy'n helpu’r rhai ar yr incwm isaf ddianc rhag tlodi, mae eich Llywodraeth chi yn pleidleisio yn ein herbyn?