Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n ymddangos fy mod i’n gallu cael ffigur allan ohonoch chi heddiw, Brif Weinidog. Rwyf wedi talu teyrnged i'r camau y mae’r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hyn, ond nodwyd yn gwbl eglur mai dim ond pocedi o arfer da sydd yn y GIG yng Nghymru, yn anffodus. Rwyf wedi rhoi’r ffigur o un o bob 10 i chi ac rwyf i wedi rhoi’r ffigur i chi bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn marw o fadredd nag mewn damweiniau ar y ffyrdd, felly byddwn yn gobeithio efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ysgrifenedig i nodi ble mae'r Llywodraeth eisiau bod ymhen blwyddyn, fel y gallwn weld pa mor agored yw ei feddwl i sicrhau cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn.
Ond un maes lle y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol yw recriwtio a chadw meddygon a staff meddygol. Rwy’n gwerthfawrogi eto bod hwn yn fater y DU gyfan, ac mewn rhai disgyblaethau mae'n fwy amlwg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig nag efallai yma yng Nghymru. Ond, yn anffodus, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi tynnu sylw at y ffaith bod 40 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol yn wag yma yng Nghymru, ac nid yw llawer ohonynt yn denu—rwy'n sôn am swyddi gwag, nid swyddi staff gwirioneddol—nid yw 40 y cant o swyddi gwag yn derbyn unrhyw ateb i'r hysbysebion a gyhoeddir. Pa gynnydd fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn ei gynnal dros y flwyddyn nesaf i ddenu clinigwyr i'n GIG a’u cadw yno, fel bod yr arbenigedd gennym, pan ddaw i fadredd a chyflyrau eraill, ar y rheng flaen i wneud y diagnosis hwnnw i wella triniaethau i gleifion sy’n mynd i mewn i'r GIG yma yng Nghymru?