Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Nid wyf yn hollol siŵr o le mae'n cael y ffigur o 40 y cant. Tua 4 y cant yw’r ffigur swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru. Rydym ni’n parhau i fod yn rhagweithiol o ran ein recriwtio. Rydym ni wedi bod yn Llundain a Harrogate mewn digwyddiadau yn ddiweddar er mwyn cyflwyno Cymru fel lle da i fod yn feddyg ynddo. Ar y cyfrif diwethaf, rydym ni wedi cael 280 o ymatebion ac ymholiadau pendant a chadarn iawn i’n hymgyrch—mae'n ymgyrch dda iawn. Rydym ni’n hyderus y byddwn ni’n gallu denu'r meddygon ar bob lefel, a llawfeddygon ar bob lefel, i mewn i GIG Cymru i sicrhau bod digon o bobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.