Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyrau at brif swyddogion cynllunio sy'n ategu'r polisi cynllunio yng Nghymru. A allwch chi gadarnhau pa un a yw’r llythyrau hyn yn gyfystyr â pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn, neu ai canllawiau a chyngor yn unig ydynt, y gellir eu derbyn neu eu gwrthod wrth lunio CDLl? Hefyd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi pa bwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar Gyngor Sir Powys o ran ei gyfarwyddo i gynnwys ardaloedd chwilio lleol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ychwanegol at yr ardaloedd chwilio strategol presennol ar draws y sir?