1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran llunio cynlluniau datblygu lleol? OAQ(5)0295(FM)
Gwnaf. Mae'r Llywodraeth yn ymgysylltu’n rhagweithiol ag awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau bod polisi cynllunio cenedlaethol fel y nodir ym 'Mholisi Cynllunio Cymru' a nodiadau cyngor technegol cysylltiedig yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn y cynlluniau datblygu lleol.
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyrau at brif swyddogion cynllunio sy'n ategu'r polisi cynllunio yng Nghymru. A allwch chi gadarnhau pa un a yw’r llythyrau hyn yn gyfystyr â pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn, neu ai canllawiau a chyngor yn unig ydynt, y gellir eu derbyn neu eu gwrthod wrth lunio CDLl? Hefyd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi pa bwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar Gyngor Sir Powys o ran ei gyfarwyddo i gynnwys ardaloedd chwilio lleol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ychwanegol at yr ardaloedd chwilio strategol presennol ar draws y sir?
Nid ydym wedi cyfarwyddo cyngor Powys i ddiwygio ei CDLl. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi ymgysylltu â Chyngor Sir Powys i roi cyngor ac arweiniad ar bolisi cenedlaethol, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, a chan gynnwys ymateb yn ystod camau ymgynghori ffurfiol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gadw mewn cof y canllawiau a ddaw gan Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, bydd y canllawiau hynny’n cael eu cymryd i ystyriaeth pan fydd y CDLl yn cael ei archwilio gan yr arolygydd, sydd, wrth gwrs, â’r gair olaf ynghylch pa un a yw CDLl yn cael ei dderbyn ai peidio.
Brif Weinidog, swyddogaeth eich Llywodraeth yn CDLl Caerdydd yw’r bwriad i daflu miloedd o anheddau ar ein cefn gwlad. Bydd Plaid Cymru Caerdydd yn sicrhau bod cyngor Caerdydd yn pasio cynnig i fynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun difa lleol Caerdydd. A wnewch chi gefnogi'r cynnig hwnnw i achub meysydd glas Caerdydd?
Lol gyfreithiol yw hyn, fel y mae’n gwybod yn iawn. Nid yw'n hoff iawn o fewnfudwyr, nac ydy? Mae'n un o'r pethau yr ydym ni’n ei sylwi amdano. Nid yw'n hoffi pobl yn dod i fyw yng Nghaerdydd. Efallai yr hoffai ystyried pa blaid y dylai fod yn aelod ohoni, ond mater iddo ef yw hynny. Y gwir amdani yw mai mater i’r awdurdodau lleol yw mabwysiadu eu CDLlau, mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu beth i'w wneud â'u CDLl. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ran na grym cyfreithiol i ddiddymu CDLl awdurdod lleol, ac ni ellir byth cael pleidlais ar lawr y Siambr hon i ddiddymu CDLl ychwaith. Mae'n fater o ddemocratiaeth leol y gall cyngor lleol lunio ei CDLl, gan gymryd polisi cynllunio cenedlaethol i ystyriaeth, a chan ystyried yr hyn y mae’r arolygydd yn ei ddweud yn rhan o'r broses CDLl honno. Dyna’n union y mae cyngor Caerdydd wedi ei wneud.
Cwestiwn 4, David Rowlands.