<p>Cynlluniau Datblygu Lleol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Lol gyfreithiol yw hyn, fel y mae’n gwybod yn iawn. Nid yw'n hoff iawn o fewnfudwyr, nac ydy? Mae'n un o'r pethau yr ydym ni’n ei sylwi amdano. Nid yw'n hoffi pobl yn dod i fyw yng Nghaerdydd. Efallai yr hoffai ystyried pa blaid y dylai fod yn aelod ohoni, ond mater iddo ef yw hynny. Y gwir amdani yw mai mater i’r awdurdodau lleol yw mabwysiadu eu CDLlau, mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu beth i'w wneud â'u CDLl. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ran na grym cyfreithiol i ddiddymu CDLl awdurdod lleol, ac ni ellir byth cael pleidlais ar lawr y Siambr hon i ddiddymu CDLl ychwaith. Mae'n fater o ddemocratiaeth leol y gall cyngor lleol lunio ei CDLl, gan gymryd polisi cynllunio cenedlaethol i ystyriaeth, a chan ystyried yr hyn y mae’r arolygydd yn ei ddweud yn rhan o'r broses CDLl honno. Dyna’n union y mae cyngor Caerdydd wedi ei wneud.