Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, mae’n ymddangos bod yr Aelod yn fy narbwyllo y dylwn i annog Llywodraeth Iwerddon i wneud cais am gyllid Ewropeaidd i dalu am ffyrdd Cymru. Mae wedi bod yn aelod o blaid ac wedi ymgyrchu ym mis Mehefin i roi terfyn ar gyllid Ewropeaidd ar gyfer ffyrdd Cymru. Ni all, rwy’n awgrymu, fynd at aelod-wladwriaeth yr UE nawr a gofyn iddi wneud iawn am y diffyg y gwnaeth ef ei hun ymgyrchu i’w greu yn y lle cyntaf.
Ceir ail bwynt hefyd. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yma yn yr ystyr y gallai Lloegr droi atom a dweud bod yr M4 yn croesi pont Hafren, bod yr holl draffig sy'n croesi pont Hafren yn mynd i Gymru, bod llawer o'r M4 yn cael ei defnyddio gan draffig yng Nghymru, ac felly , dylid cael cyfraniad gan Gymru at yr M4 i'r dwyrain o bont Hafren. Gallai awdurdodau Ffrainc ddweud bod mwyafrif llethol y nwyddau sy'n dod o'r DU yn mynd trwy Calais, felly dylai Llywodraeth y DU dalu am seilwaith y porthladd yn Calais a'r ffyrdd sy'n arwain o Calais. Ble mae'r ddadl wedyn? Na; mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am gynnal a chadw ein ffyrdd ein hunain yn ein gwledydd ein hunain.