Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Mae hwn yn gwestiwn swreal, hyd yn oed yn ôl safonau eleni. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae cwestiwn Mr Rowlands yn atgoffa rhywun o ddyn a oedd â chynllun unwaith i adeiladu wal o amgylch ei wlad a rhoi bil i’w gymdogion drws nesaf am y gwaith. Nid wyf yn siŵr beth ddigwyddodd i'r gŵr bonheddig hwnnw.
O ran cydweithio yn y dyfodol rhwng Cymru ac Iwerddon ar brosiectau seilwaith, ceir lle posibl ar gyfer trefniant ffurfiol, trefniant dwyochrog, rhwng Cymru ac Iwerddon, trwy gytundeb Belfast lle gall dau neu fwy o aelodau ymrwymo i gytundebau dwyochrog gyda'i gilydd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried trefniant ffurfiol gyda gwladwriaeth Iwerddon fel y gallwn ni gael cydweithio ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol, gan fanteisio hyd yn oed—os meiddiaf ddweud—ar arian Ewropeaidd fel y gallwn ei ffurfioli yn gynghrair môr Celtaidd sy'n rhoi rhywfaint o obaith i'n rhanbarthau gorllewinol a rhanbarthau dwyreiniol gwladwriaeth Iwerddon?