Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Ydy, mae’r gynghrair môr Celtaidd wedi ei seilio, rwy’n credu, ar y cydweithrediad rhwng Norwy a Sweden fel model o ran sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'n debygol y byddwn ni’n colli cyllid INTERREG cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, a fydd yn cael effaith ar ein porthladdoedd fferi yn benodol. Rwy'n awyddus i archwilio perthynas newydd o amgylch môr Iwerddon, pa un a yw gyda’r weriniaeth, Gogledd Iwerddon neu gydag Ynys Manaw, i weld sut y gallwn ni helpu i sicrhau bod cyn lleied o amharu â phosibl pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gorff defnyddiol o ran archwilio rhai o'r materion hyn gyda’r gwledydd hynny sy'n ffinio môr Iwerddon.