Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Buaswn i’n cefnogi, yn naturiol, y sylwadau y mae Jeremy Miles newydd eu gwneud ynglŷn â’r angen dybryd i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae rhai ohonom ni wedi bod yn dadlau am hynny ers degawd a mwy. Ond mae’r cwestiwn gwreiddiol yn y fan hyn ynglŷn â dail ar y lein. Yn naturiol, rydym yn cael hydref bob blwyddyn ac mae’r dail yn cwympo bob blwyddyn. Rwy’n deall y pwynt nad yw’r system yma wedi cael ei datganoli, ond nid wyf yn gwybod a oes rhywun wedi dweud hynny wrth y dail. Ond rwy’n credu bod yna sgôp yn y fan hyn i arloesi mewn trafodaethau i wneud yn siŵr ein bod ni yn dod i fyny efo atebion sy’n cael gwared ar y broblem yma unwaith ac am byth.