Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, mae'r rhain yn addewidion a wnaed, y byddai trydaneiddio. Yn wreiddiol, wrth gwrs, yr addewid oedd trydaneiddio cyn belled â Chaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe; roeddwn i’n meddwl tybed beth yr oeddwn i wedi ei wneud i Lywodraeth y DU i olygu bod bwlch rhwng fy etholaeth i a Chaerdydd. Mewn gwirionedd, roedd oherwydd eu bod wedi methu â sylweddoli bod dwy reilffordd rhwng y ddau anheddiad. Gwnaed yr addewid hwnnw, ac rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei gadw. Hefyd, mae'n eithaf amlwg bod angen ailwampio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog yn sylweddol er mwyn iddi fod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n disgwyl gweld—byddwn eisiau gweld—Llywodraeth y DU yn gwneud y lefel cywir o gyfraniad at gynlluniau Network Rail ar gyfer yr orsaf honno hefyd. Nid yw'n ddigon da, ar y naill law, i ddweud na ellir datganoli’r rheilffyrdd, ac ar y llaw arall peidio â gwario digon o arian ar reilffyrdd Cymru. Ni all Llywodraeth y DU ei chael hi bob ffordd.