<p>Cyllid Ychwanegol i Gymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr. Rydym ni eisoes yn gwario 6 y cant yn fwy y pen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru nag sy'n wir yn Lloegr. Ni welsom y synnwyr erioed mewn cymryd arian oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn llenwi bylchau mewn cyllid iechyd, sef yr hyn a wnaeth Lloegr. Ni allwch ysgaru un oddi wrth y llall, a byddwn yn parhau i sicrhau bod digon o gyllid ar gael ar gyfer y ddau.