Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Mae rhywfaint o arian datganiad yr hydref yn Lloegr yn mynd i gael ei ddefnyddio i adeiladu gallu band eang hypergyflym trwy ffeibr i'r safle. Onid oes cyfle yma i ni yng Nghymru, wrth i ni ddechrau meddwl y tu hwnt i Gyflymu Cymru, yn hytrach na buddsoddi mewn monopoli sy'n eiddo preifat, sydd yn peri llawer o broblemau, fel y dangosodd penderfyniad Ofcom heddiw, greu rhwydwaith seilwaith digidol eiddo cyhoeddus i Gymru, rhywbeth y mae arweinydd ei blaid ar lefel y DU wedi galw amdano ar gyfer y DU yn ddiweddar?