Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, mae ein hamgylchedd naturiol ni, yn cynnwys ein hamgylchedd dŵr, yn gallu darparu nifer o fanteision i wella ansawdd ein bywydau, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ehangu mynediad at ein hadnoddau naturiol. Efallai eich bod chi yn ymwybodol o gynlluniau i drawsnewid cronfa ddŵr Llys-y-frân, yn fy etholaeth i, i mewn i barc dŵr er mwyn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal. Nawr, yn sgil y cynlluniau hyn, pa gymorth ychwanegol y gall eich Llywodraeth chi ei gynnig i brojectau fel hyn sydd, wrth gwrs, yn hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol ni ac yn dod â manteision i’n hardaloedd gwledig ni?