Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, o adnabod yr ardal yn weddol dda, mae hyn yn rhywbeth, rwy’n credu, efallai a fyddai o les i’r ardal ei hunan. Yn y ffordd arferol, wrth gwrs, byddai angen i unrhyw gynllun ofyn am gymorth ac i ni, wrth gwrs, ystyried a fyddai cymorth ar gael iddyn nhw. Felly, byddwn i’n dweud wrthyn nhw i ystyried pob math o help ariannol er mwyn sicrhau bod y project yn gallu parhau.