Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur trefn ac ar y cychwyn i gadarnhau bod y Llywodraeth hefyd yn hapus i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd.
Nawr, bob blwyddyn, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn nodi trosolwg annibynnol o’r materion iechyd a lles sy'n wynebu'r genedl. Rwy'n falch o arwain y ddadl hon i nodi cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf un gan ein prif swyddog meddygol newydd, Dr Frank Atherton. Fe’i hysgrifennwyd ar y cyd eleni â’r Athro Chris Jones, y dirprwy brif swyddog meddygol.
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn draddodiadol yn nodi asesiad o ble mae Cymru'n sefyll o safbwynt iechyd a lles, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau wedi nodi, yn yr adroddiad hwn, bod y prif swyddog meddygol wedi rhoi naws wahanol i ni o’i chymharu â’r adroddiadau blaenorol mewn gwirionedd. Nawr, wrth gwrs, mae'n ychwanegu at lawer o negeseuon ei ragflaenwyr, yn enwedig mewn cysylltiad ag atal ac ymyrraeth amserol. Ond mae'r prif swyddog meddygol newydd wedi dewis gweld pethau mewn ffordd ychydig yn llai traddodiadol. Nid yn unig mae wedi ychwanegu adran ar y graddiant cymdeithasol, ond mae wedi canolbwyntio'r adroddiad i gyd yn benodol ar y graddiant cymdeithasol a sut mae pobl o grwpiau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o afiechyd a chyfleoedd gwael mewn bywyd.
Rwy’n croesawu cyfeiriad yr adroddiad hwn. Mae'n herio pob un ohonom yma yn y Siambr hon, fel rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn craffu. Dylai sbarduno ein dewisiadau yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn llywio’r ddadl iechyd a lles yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'n cynnig argymhellion ar sut yr ydym yn gwneud ein gwasanaethau'n fwy effeithiol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy i bawb.
Mae'r graddiant cymdeithasol yn effeithio ar bawb a rhaid i holl sefydliadau'r sector cyhoeddus feddwl ac ymddwyn yn wahanol os ydym am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn cymunedau mewn modd ystyrlon. Mae'r rhain yn anghydraddoldebau o fewn pob cymuned a rhwng gwahanol gymunedau. Er nad yw’r anghydraddoldebau hyn yn unigryw i Gymru ac maent i’w gweld mewn gwledydd eraill ar draws y byd, mae ganddynt, wrth gwrs, ddimensiwn unigryw Cymreig, o ran hanes, diwylliant a lleoliad daearyddol. Dealltwriaeth y bobl a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, lle mae eu bywyd bob dydd yn digwydd, fydd yn ein helpu ni i weithio gyda'n gilydd i sicrhau’r ymateb mwyaf priodol i’r amgylchiadau hynny. Oherwydd mae pob un ohonom yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn wynebu brwydr barhaus i ateb y galw a achosir gan afiechyd—galwadau yr ydym yn cydnabod sy’n codi, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae gorddibyniaeth ar wasanaethau a defodau ac arferion clinigol sydd wedi dyddio yn gallu achosi llawer iawn o weithgaredd yn y system, ond nid ydynt bob amser yn diwallu anghenion y bobl dlotaf. Rwy'n falch o dynnu sylw yma at y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud wrth geisio diwygio'r system cleifion allanol. Gwyddom ei fod yn achosi aneffeithlonrwydd enfawr yn ein gwasanaethau. Nid yw'n gwneud y defnydd gorau o amser clinigwyr nac, yn wir, yn gwneud y defnydd gorau o amser cleifion, drwy'r amser; mewn gwirionedd mae’n bwynt gweithgaredd a all olygu arbedion enfawr i’n gwasanaeth iechyd ni a llawer mwy o werth o ran yr hyn yr ydym yn ei ddarparu ar ôl hynny.
Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ddigon teg yn gofyn beth all y GIG ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa hon, drwy, ymysg pethau eraill, ddatgloi pŵer ymgysylltiad yr unigolyn a'r gymuned wrth symud oddi wrth afiechyd i les. Nawr, yn y pen draw, dylai hyn leihau'r galw ar wasanaethau a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Drwy edrych ar ganlyniadau iechyd drwy lens y graddiant cymdeithasol, gallwn weld nifer uwch o achosion o niwed sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw a chefndir cymdeithasol, salwch, a marwolaeth gynnar yn y grwpiau sydd fwyaf difreintiedig yn economaidd. Felly, mae'r adroddiad yn ceisio nodi'r hyn yr ydym yn ei ddeall gan y graddiant cymdeithasol mewn iechyd ac mae'n dangos ei fod mor ddiamwys yma yng Nghymru ag y mae mewn mannau eraill. Mae iechyd yn gwella’n gynyddol wrth i sefyllfa economaidd-gymdeithasol pobl a chymunedau wella. Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar sut y gall penderfynyddion cymdeithasol iechyd gwael, oherwydd profiad anodd yn ystod bywyd cynnar y ffetws neu yn ystod y blynyddoedd cynnar, addysg wael, tai, diweithdra, neu effaith tlodi, bob un ohonynt, effeithio ar ein hiechyd a'n lles yn y tymor hwy. Ac mae hefyd yn edrych ar sut y gall y gwasanaeth iechyd gwladol a chyrff cyhoeddus eraill ymyrryd i ddylanwadu neu liniaru rhai o'r ffactorau negyddol hynny. Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu ac yn ei wybod am y ffordd orau o fynd i'r afael â'r graddiant cymdeithasol: hynny yw, drwy wasanaethau cyffredinol sy'n ymateb i lefel yr angen, sy'n wahanol mewn gwahanol rannau o'n gwlad.
Nawr, mae ein GIG ni, sy’n rhad ac am i’w ddefnyddio, ac sydd ag enw da am ragoriaeth ar draws y byd, wedi gwneud llawer i atal anghydraddoldebau iechyd. Ond mae'r adroddiad hwn yn gofyn cwestiynau am sut yr ydym yn defnyddio'r adnodd GIG yma yng Nghymru orau, a sut mae'n rhaid trefnu'r GIG er mwyn lleihau’r graddiant cymdeithasol ymhellach, nid ei gynyddu. Mae’n gofyn beth yw’r ffordd orau o fanteisio ar ein hegwyddorion gofal iechyd doeth yma yng Nghymru a darparu gwasanaethau mwy cyfartal i gael eu cyd-gynhyrchu’n wirioneddol â'r unigolion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rwy’n credu mai hwn yw’r pwynt y mae’r gwelliant yn ceisio canolbwyntio arno hefyd. Rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arwain ar bobl fel ni, wleidyddion, ac ar bobl y byrddau iechyd a sefydliadau eraill sy’n arwain a rhedeg sefydliadau. Ond, yn ogystal â’r arweinyddiaeth honno, ni fyddwn yn llwyddiannus mewn gwirionedd oni fyddwn yn gallu gweithio gyda gwahanol gymunedau ac unigolion, nid dim ond dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud. Ym mhob achos o ryngweithio â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, a chyda chefnogaeth cymheiriaid a her cymheiriaid hefyd, rydym yn cydnabod y gallwn helpu i roi’r wybodaeth i bobl wneud dewisiadau gwirioneddol gytbwys. Gwyddom fod y claf mwy gwybodus yn tueddu i wneud dewisiadau gwell.
Mae'r negeseuon yn yr adroddiad ynghylch system gofal iechyd fwy cynaliadwy a'r angen i reoli'r galw yn rhai heriol, ond yn hanfodol. Mae GIG Cymru yn system brysur. Dyma ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf. Mae'n defnyddio 48 y cant o'n hadnoddau ac, yn wir, mae ein gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol bellach 7 y cant yn uwch fesul y boblogaeth nag yn Lloegr. Roedd yr adroddiad OECD diweddaraf, a oedd yn adolygu systemau ansawdd sy'n gweithredu ym mhedair adran iechyd y Deyrnas Unedig, yn canmol llawer o'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru, ond yn teimlo y gallem wneud mwy i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae hynny'n golygu symud i ffwrdd o drin afiechyd a throi at ffyrdd o gefnogi pobl i wneud y gorau o'u cyfleoedd mewn bywyd ac, mewn llawer o achosion, bydd iechyd da yn dilyn.
Mae'r negeseuon yn yr adroddiad hwn gan y prif swyddog meddygol am fodelau gofal newydd, fel rhagnodi cymdeithasol, er enghraifft, a'r angen i ddeall yn well yr heriau a wynebir gan gymunedau er mwyn dod o hyd i atebion, yn rhai amserol ac i’w croesawu. Mae swyddogaeth ganolog gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn bwysig ac yn cyd-fynd ag arfer gorau tebyg ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus o ran diwylliant, arweinyddiaeth ac ymddygiadau. Yn gyffredinol mae ein gweithlu yn werthfawr iawn a gallwn ymddiried ynddo, a chyda mynediad at ein poblogaeth ar adegau allweddol yn eu bywydau, mae angen i ni wneud y gorau o allu’r gweithlu i ymyrryd gydag unigolion o fewn eu cymunedau a gwneud penderfyniadau ar y cyd er mwyn gwella’r canlyniadau hynny i unigolion a theuluoedd. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn cefnogi'r dyheadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.