– Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
Rydym yn awr yn symud ymlaen at eitem 6, sef dadl ar adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol ar gyfer 2015-16. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur trefn ac ar y cychwyn i gadarnhau bod y Llywodraeth hefyd yn hapus i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd.
Nawr, bob blwyddyn, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn nodi trosolwg annibynnol o’r materion iechyd a lles sy'n wynebu'r genedl. Rwy'n falch o arwain y ddadl hon i nodi cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf un gan ein prif swyddog meddygol newydd, Dr Frank Atherton. Fe’i hysgrifennwyd ar y cyd eleni â’r Athro Chris Jones, y dirprwy brif swyddog meddygol.
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn draddodiadol yn nodi asesiad o ble mae Cymru'n sefyll o safbwynt iechyd a lles, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau wedi nodi, yn yr adroddiad hwn, bod y prif swyddog meddygol wedi rhoi naws wahanol i ni o’i chymharu â’r adroddiadau blaenorol mewn gwirionedd. Nawr, wrth gwrs, mae'n ychwanegu at lawer o negeseuon ei ragflaenwyr, yn enwedig mewn cysylltiad ag atal ac ymyrraeth amserol. Ond mae'r prif swyddog meddygol newydd wedi dewis gweld pethau mewn ffordd ychydig yn llai traddodiadol. Nid yn unig mae wedi ychwanegu adran ar y graddiant cymdeithasol, ond mae wedi canolbwyntio'r adroddiad i gyd yn benodol ar y graddiant cymdeithasol a sut mae pobl o grwpiau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o afiechyd a chyfleoedd gwael mewn bywyd.
Rwy’n croesawu cyfeiriad yr adroddiad hwn. Mae'n herio pob un ohonom yma yn y Siambr hon, fel rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn craffu. Dylai sbarduno ein dewisiadau yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn llywio’r ddadl iechyd a lles yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'n cynnig argymhellion ar sut yr ydym yn gwneud ein gwasanaethau'n fwy effeithiol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy i bawb.
Mae'r graddiant cymdeithasol yn effeithio ar bawb a rhaid i holl sefydliadau'r sector cyhoeddus feddwl ac ymddwyn yn wahanol os ydym am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn cymunedau mewn modd ystyrlon. Mae'r rhain yn anghydraddoldebau o fewn pob cymuned a rhwng gwahanol gymunedau. Er nad yw’r anghydraddoldebau hyn yn unigryw i Gymru ac maent i’w gweld mewn gwledydd eraill ar draws y byd, mae ganddynt, wrth gwrs, ddimensiwn unigryw Cymreig, o ran hanes, diwylliant a lleoliad daearyddol. Dealltwriaeth y bobl a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, lle mae eu bywyd bob dydd yn digwydd, fydd yn ein helpu ni i weithio gyda'n gilydd i sicrhau’r ymateb mwyaf priodol i’r amgylchiadau hynny. Oherwydd mae pob un ohonom yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn wynebu brwydr barhaus i ateb y galw a achosir gan afiechyd—galwadau yr ydym yn cydnabod sy’n codi, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae gorddibyniaeth ar wasanaethau a defodau ac arferion clinigol sydd wedi dyddio yn gallu achosi llawer iawn o weithgaredd yn y system, ond nid ydynt bob amser yn diwallu anghenion y bobl dlotaf. Rwy'n falch o dynnu sylw yma at y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud wrth geisio diwygio'r system cleifion allanol. Gwyddom ei fod yn achosi aneffeithlonrwydd enfawr yn ein gwasanaethau. Nid yw'n gwneud y defnydd gorau o amser clinigwyr nac, yn wir, yn gwneud y defnydd gorau o amser cleifion, drwy'r amser; mewn gwirionedd mae’n bwynt gweithgaredd a all olygu arbedion enfawr i’n gwasanaeth iechyd ni a llawer mwy o werth o ran yr hyn yr ydym yn ei ddarparu ar ôl hynny.
Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ddigon teg yn gofyn beth all y GIG ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa hon, drwy, ymysg pethau eraill, ddatgloi pŵer ymgysylltiad yr unigolyn a'r gymuned wrth symud oddi wrth afiechyd i les. Nawr, yn y pen draw, dylai hyn leihau'r galw ar wasanaethau a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Drwy edrych ar ganlyniadau iechyd drwy lens y graddiant cymdeithasol, gallwn weld nifer uwch o achosion o niwed sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw a chefndir cymdeithasol, salwch, a marwolaeth gynnar yn y grwpiau sydd fwyaf difreintiedig yn economaidd. Felly, mae'r adroddiad yn ceisio nodi'r hyn yr ydym yn ei ddeall gan y graddiant cymdeithasol mewn iechyd ac mae'n dangos ei fod mor ddiamwys yma yng Nghymru ag y mae mewn mannau eraill. Mae iechyd yn gwella’n gynyddol wrth i sefyllfa economaidd-gymdeithasol pobl a chymunedau wella. Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar sut y gall penderfynyddion cymdeithasol iechyd gwael, oherwydd profiad anodd yn ystod bywyd cynnar y ffetws neu yn ystod y blynyddoedd cynnar, addysg wael, tai, diweithdra, neu effaith tlodi, bob un ohonynt, effeithio ar ein hiechyd a'n lles yn y tymor hwy. Ac mae hefyd yn edrych ar sut y gall y gwasanaeth iechyd gwladol a chyrff cyhoeddus eraill ymyrryd i ddylanwadu neu liniaru rhai o'r ffactorau negyddol hynny. Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu ac yn ei wybod am y ffordd orau o fynd i'r afael â'r graddiant cymdeithasol: hynny yw, drwy wasanaethau cyffredinol sy'n ymateb i lefel yr angen, sy'n wahanol mewn gwahanol rannau o'n gwlad.
Nawr, mae ein GIG ni, sy’n rhad ac am i’w ddefnyddio, ac sydd ag enw da am ragoriaeth ar draws y byd, wedi gwneud llawer i atal anghydraddoldebau iechyd. Ond mae'r adroddiad hwn yn gofyn cwestiynau am sut yr ydym yn defnyddio'r adnodd GIG yma yng Nghymru orau, a sut mae'n rhaid trefnu'r GIG er mwyn lleihau’r graddiant cymdeithasol ymhellach, nid ei gynyddu. Mae’n gofyn beth yw’r ffordd orau o fanteisio ar ein hegwyddorion gofal iechyd doeth yma yng Nghymru a darparu gwasanaethau mwy cyfartal i gael eu cyd-gynhyrchu’n wirioneddol â'r unigolion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rwy’n credu mai hwn yw’r pwynt y mae’r gwelliant yn ceisio canolbwyntio arno hefyd. Rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arwain ar bobl fel ni, wleidyddion, ac ar bobl y byrddau iechyd a sefydliadau eraill sy’n arwain a rhedeg sefydliadau. Ond, yn ogystal â’r arweinyddiaeth honno, ni fyddwn yn llwyddiannus mewn gwirionedd oni fyddwn yn gallu gweithio gyda gwahanol gymunedau ac unigolion, nid dim ond dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud. Ym mhob achos o ryngweithio â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, a chyda chefnogaeth cymheiriaid a her cymheiriaid hefyd, rydym yn cydnabod y gallwn helpu i roi’r wybodaeth i bobl wneud dewisiadau gwirioneddol gytbwys. Gwyddom fod y claf mwy gwybodus yn tueddu i wneud dewisiadau gwell.
Mae'r negeseuon yn yr adroddiad ynghylch system gofal iechyd fwy cynaliadwy a'r angen i reoli'r galw yn rhai heriol, ond yn hanfodol. Mae GIG Cymru yn system brysur. Dyma ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf. Mae'n defnyddio 48 y cant o'n hadnoddau ac, yn wir, mae ein gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol bellach 7 y cant yn uwch fesul y boblogaeth nag yn Lloegr. Roedd yr adroddiad OECD diweddaraf, a oedd yn adolygu systemau ansawdd sy'n gweithredu ym mhedair adran iechyd y Deyrnas Unedig, yn canmol llawer o'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru, ond yn teimlo y gallem wneud mwy i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae hynny'n golygu symud i ffwrdd o drin afiechyd a throi at ffyrdd o gefnogi pobl i wneud y gorau o'u cyfleoedd mewn bywyd ac, mewn llawer o achosion, bydd iechyd da yn dilyn.
Mae'r negeseuon yn yr adroddiad hwn gan y prif swyddog meddygol am fodelau gofal newydd, fel rhagnodi cymdeithasol, er enghraifft, a'r angen i ddeall yn well yr heriau a wynebir gan gymunedau er mwyn dod o hyd i atebion, yn rhai amserol ac i’w croesawu. Mae swyddogaeth ganolog gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn bwysig ac yn cyd-fynd ag arfer gorau tebyg ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus o ran diwylliant, arweinyddiaeth ac ymddygiadau. Yn gyffredinol mae ein gweithlu yn werthfawr iawn a gallwn ymddiried ynddo, a chyda mynediad at ein poblogaeth ar adegau allweddol yn eu bywydau, mae angen i ni wneud y gorau o allu’r gweithlu i ymyrryd gydag unigolion o fewn eu cymunedau a gwneud penderfyniadau ar y cyd er mwyn gwella’r canlyniadau hynny i unigolion a theuluoedd. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn cefnogi'r dyheadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r wyth argymhelliad yn yr adroddiad wedi’u hanelu at sefydliadau'r GIG, eu partneriaid, Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg. Maent yn adlewyrchu dull cwrs bywyd, gyda'r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys cyhoeddiadau a thystiolaeth Cymru, a’r pwyslais hwnnw ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Maent hefyd yn galw am arloesi a'r angen am ymchwil parhaus i fodelau gofal newydd. Mae llawer o heriau wedi’u nodi yn yr adroddiad. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud yn y ddadl heddiw.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.
Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant yma, ac mae o’n canolbwyntio ar un elfen o’r adroddiad, mewn difrif. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni eto fod y cymunedau tlotaf yn talu pris sylweddol o ran eu hiechyd, yn syml am fod yn dlawd ac am fod pobl yn byw ochr yn ochr â phobl dlawd eraill. Mae yna ormod o ganolbwyntio weithiau, rydw i’n meddwl, ar y dewisiadau mewn ffordd o fyw sy’n cael eu gwneud gan bobl. Mae’n wir, wrth gwrs, fod nifer yr achosion o ysmygu a gordewdra yn fwy yn yr ardaloedd tlotach, ond mi ddylem ni fod yn wyliadwrus bob amser, rydw i’n meddwl, o greu naratif bod y bai am iechyd gwael ar y person ei hun neu ei bod hi wastad yn wir mai pobl dlotach sydd efo’r ymddygiad iechyd gwaelaf.
Mae yna lawer o bobl ar incwm isel sy’n byw bywyd iach iawn, ond sy’n dal yn gorfod delio ag effeithiau cartrefi gwael, cyflogaeth ansicr ac yn y blaen. Cofiwch hefyd fod data arolwg iechyd Cymru’n dangos bod yfed alcohol hyd at fod yn niweidiol yn uwch ymhlith gweithwyr rheoli yn aml nag ymhlith gweithwyr eraill, ac rydw i’n siŵr bod yna rai rheolwyr dosbarth canol a fyddai’n fodlon cyfaddef y gallen nhw wneud efo colli ychydig o bwysau. Felly, rydw i’n falch bod adroddiad y prif swyddog meddygol yn rhoi sylw i’r ffactorau yma, sydd ddim yn gallu cael eu diystyru rywsut fel canlyniad i ymddygiad gwael mewn rhyw ffordd.
Rydym ni wedi tynnu sylw, ar sawl achlysur, at y cysylltiadau rhwng tai gwael ac iechyd, rhwng digartrefedd ac iechyd, cyflogaeth ansicr a diweithdra ac iechyd ac yn y blaen. Ni all yr un o’r rheini gael ei ystyried fel dewis bywyd, wrth gwrs. Mae hefyd yn wir y bydd gwell addysg, mynediad at fannau gwyrdd a chyflogaeth mwy diogel yn cael yr effaith groes ar iechyd gydol oes rhywun.
Rŵan, mae’r prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni’n benodol am brofiadau plentyndod andwyol hefyd, a phwysigrwydd y 1,000 o ddyddiau cyntaf. Mae o’n nodi bod y dystiolaeth yn dangos y byddai buddsoddi ychydig dros £100 mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn arwain at dros £6,000 o arbedion o’u mesur ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus dros bum mlynedd cyntaf bywyd. Mae hynny’n gyfradd buddsoddi llawer gwell na chewch chi mewn llawer o feysydd eraill—ar wahân i roi bet ar Leicester i ennill yr uwch gynghrair o bosib. Mae hwnnw’n ‘return’ eithaf da. Mi allwn ni ddod o hyd i dystiolaeth debyg ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd. Mi fyddai tai gwell yn atal afiechyd, creu mannau gwyrdd yn arwain at well iechyd, ac yn y blaen.
Dyna pam bod y prif swyddog meddygol yn argymell bod yn rhaid i’r NHS felly weithio efo gwasanaethau cyhoeddus eraill—atal tân, cyngor ariannol, cefnogaeth tai—wrth geisio creu, os liciwch chi, iechyd cynaliadwy i Gymru ar gyfer y dyfodol. Mi fyddwn i’n mynd yn bellach yma hefyd. Mae’r adroddiad yn wir yn dangos bod torri gwariant cyhoeddus, fel ydym ni wedi ei weld gan y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr, wedi bod yn enghraifft o economi ffug o’r lefel uchaf, a’r mwyaf bregus sy’n dioddef pan fo gwariant cyhoeddus yn cael ei dorri. Mae mor syml â hynny.
Wrth wraidd y broblem rydym ni’n ei hystyried yn fan hyn mae anghydraddoldeb. Yr wythnos diwethaf, mi ddangosodd gwaith ymchwil diddorol fod gan y rhai ar waelod haenau hierarchaeth y deyrnas anifeiliaid systemau imiwnedd gwaelach o ganlyniad i statws cymdeithasol isel. Mae yna lawer o academyddion sy’n arbenigo mewn anghydraddoldebau iechyd wedi nodi perthnasedd yr astudiaeth hon i fodau dynol hefyd. Anghydraddoldeb ei hun ydy’r broblem. Mae’r llyfr ‘The Spirit Level’ yn crynhoi llawer o’r ymchwil ar hyn. Mae gwledydd efo llai o anghydraddoldeb yn tueddu bod yn sylweddol iachach, yn tueddu bod â chyfraddau troseddu is, gwell symudedd cymdeithasol ac ati. Mae hynny’n rhywbeth y dylem ni ei ystyried yn ofalus iawn, iawn pan fyddwn ni’n trafod y symiau mawr o arian rydym ni’n eu gwario ar ddelio efo effeithiau anghydraddoldeb. Taclo’r broblem yw’r allwedd, nid delio efo’r symptomau. Mae Plaid Cymru’n credu pe bai’r Llywodraeth yn fwy rhagweithiol i helpu greu amgylchedd iachach, byddai dewisiadau bywyd gwell yn dilyn yn anochel. I gydnabod hynny, cefnogwch y gwelliant yma.
Yn gyntaf oll, hoffwn yn fawr iawn groesawu’r adroddiad hwn gan y prif swyddog meddygol, a hoffwn ddiolch i Dr Frank Atherton a'r Athro Chris Jones am y gwaith y maent wedi ei roi i mewn iddo. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn dangos yn amlwg nad yw dull un maint i bawb yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gan fod Rhun ap Iorwerth newydd siarad am y graddiant cymdeithasol, hoffwn i wneud sylw cyflym y byddwn yn cefnogi gwelliant heddiw.
Mae'n ddiddorol nodi’r niwed y gall ymyriadau sydd wedi eu defnyddio neu eu hystyried yn wael eu hachosi. Fel y dywed yr adroddiad, mae ymyriadau iechyd nad ydynt yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o gynyddu anghydraddoldeb canlyniadau iechyd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y gorffennol mae eich adran wedi bod yn amharod i roi dangosyddion perfformiad allweddol ar waith i reoli neu fesur canlyniadau polisi yn effeithiol. Gyda’r datganiad hwn, mae'n rhaid eich bod yn gweld y perygl y gall polisi aneffeithiol ei gael yn uniongyrchol ar iechyd. A wnewch chi, felly, ymrwymo i gynhyrchu pwyntiau mesur allweddol i sicrhau effeithiolrwydd y polisïau sydd wedi’u cyflwyno?
Mae'r adroddiad hefyd yn mynd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith fod gan ddarparu gwasanaethau GIG heb ystyried y graddiant cymdeithasol y potensial i gynyddu'r anghydraddoldeb. Felly, ar y sail hon, a fyddech chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystyried rhoi mwy o bŵer i fferyllfeydd cymunedol i ymgymryd â rhai o'r mân swyddogaethau er mwyn galluogi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ganolbwyntio ar waith mwy manwl a'r rheini sydd â’r angen mwyaf?
Yn ddiweddar, ymwelais â’r practis rhagorol, Eastside Dental, yn Abertawe, sy'n un o ddim ond dwy feddygfa yng Nghymru sy’n treialu'r prototeip newydd o ddarparu dull mwy cyfannol o ymdrin â'u cleifion. Mae'r trefniant hwn yn caniatáu i lawer mwy o waith gael ei wneud i ymdrin ag atal yn hytrach na dim ond ceisio datrys y problemau fel y maent wedi codi o ran deintyddiaeth. Mae'r adroddiad yn sôn am weithio gyda phartneriaethau i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i edrych yn fanwl ar y prototeip hwn sydd wedi cei dreialu yn Abertawe a gweld a allai hwn fod yn fodel y gallwn ni ei gyflwyno ledled Cymru. Mae atal pobl rhag cael dannedd drwg yn y lle cyntaf nid yn unig yn helpu gyda hylendid ac iechyd y geg, ond mewn gwirionedd mae’n helpu gyda'u hiechyd cyffredinol hefyd. Dyma enghraifft arall o sut y gall cyd-gynhyrchu weithio o ddifrif.
Mae gwelliant 5 yn yr adroddiad, rwy’n teimlo, yn mynd i’r afael â chraidd y mater. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda'ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod y fframwaith cynllunio diwygiedig yn mynnu bod sefydliadau’n cynllunio ar gyfer canlyniadau iechyd teg ar gyfer eu poblogaethau ac yn canolbwyntio ar leihau'r galw? Rwy’n credu y byddai hynny’n hollol allweddol i allu symud ymlaen o ran yr agwedd ar anghydraddoldeb iechyd a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.
Mae dau bwynt arall yr wyf yn dymuno eu gwneud yn gyflym. Cafodd ei wneud yn glir yn yr adroddiad hwn yr effaith y gall profiad andwyol plentyndod ei chael ar ganlyniadau bywyd person arall. Credaf, ar gyfer y rhai a fyddai'n dymuno darllen yr adroddiad hwn, y byddwn yn argymell eich bod yn cael golwg fanwl ar ffigur 7 ac ar effeithiau tymor hir profiadau niweidiol plentyndod. Efallai y bydd pobl sydd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er enghraifft, 14 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi bod yn dioddef trais yn y 12 mis diwethaf, ac 16 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cymryd crac cocên neu heroin. A phe byddem yn atal ACEs— profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—i’r bobl ifanc hyn, yna gallwn leihau rhai o'r canlyniadau ofnadwy yr ydym yn eu gweld yn y gwasanaeth iechyd. Felly, pe baem yn edrych ar y defnydd o heroin a chrac cocên, er enghraifft, gallem leihau hynny 66 y cant. Mae hwn yn dabl trawiadol iawn, iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r meysydd sydd wedi cael eu hamlygu yn ddiweddar yw'r cam-drin rhywiol a’r aflonyddu y mae merched ifanc a menywod ifanc yn eu hwynebu yn yr ysgol. Maent yn dioddef lefelau o gam-drin rhywiol gan ddynion ifanc nad ydynt wedi deall yn hollol beth y mae’r gêm yn ei olygu, a sut yr ydych yn parchu eich gilydd—lefelau o gam-drin na fyddem yn disgwyl eu dioddef yn ein gweithle, ond mae pobl ifanc yn gorfod ei ddioddef. A gaf i dynnu eich sylw at adroddiad y pwyllgor dethol o San Steffan a edrychodd ar bob plentyn ysgol a merch ym Mhrydain? Mae dros ddwy ran o dair o ferched wedi dioddef cam-drin rhywiol yn yr ysgol. Ac a gaf i ofyn ichi siarad â'ch cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, am sut y gallem flaenoriaethu iechyd rhywiol o fewn ein cwricwlwm, fel y gallwn addysgu ein pobl ifanc sut i fod yn fwy parchus a gallu ymdrin yn well â’r cam-drin sy’n digwydd o fewn perthynas? Oherwydd, pan fyddwn yn edrych ar y rhestr hon o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae llawer iawn ohonynt yn mynd yn ôl i’r blynyddoedd cynnar hynny a'r berthynas rhwng dynion a menywod. Ac mae gofal iechyd doeth yn fater arall yr hoffwn i fod wedi ei godi, ond byddaf efallai yn ysgrifennu atoch ar y mater hwnnw.
Rwyf innau, hefyd, yn credu bod hwn yn adroddiad ardderchog mewn gwirionedd, oherwydd ei fod yn nodi mor glir yr heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Felly, byddwn o ddifrif yn hoffi llongyfarch yr awduron, gan y credaf ei fod yn rhoi llawer i gnoi cil arno.
Mae'n berffaith amlwg o'r adroddiad hwn na all y GIG fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar ei ben ei hun, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus weithredu gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'n debyg mai un o'r graffiau mwyaf diddorol yw'r un sy’n dangos y canlyniadau ar gyfer gwybyddiaeth mewn plant sydd â statws economaidd-gymdeithasol uchel ac isel a sut y maent yn ymwahanu dros amser. Mae'n amlwg o'r graff fod plant dwl cyfoethog yn goddiweddyd y plant tlawd disglair erbyn iddynt gyrraedd pump oed, a'r unig ffordd y gallwn wrthsefyll y duedd hon yw drwy gael gofal plant cynhwysfawr ac addysg gynnar o ansawdd da iawn. Oherwydd cafodd ei ddangos mewn astudiaethau eraill mai dyna'r ffordd yr ydym yn curo’r agwedd benodol honno ar amddifadedd.
Ond rwy'n credu, o edrych ar y ffigurau gordewdra a ddyfynnir, chi'n gwybod, mae un o bob saith plentyn ym Merthyr yn rhy drwm neu'n ordew, o’i gymharu ag un o bob 14 ym Mro Morgannwg. Yn amlwg, mae cysylltiad ag amddifadedd, ond mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar gyflwyniad cyferbyniol y ffeithiau, sef nad yw chwech o bob saith plentyn ym Merthyr yn rhy drwm neu'n ordew, ac mae hynny'n rhywbeth i’w ddathlu. Mae'n dangos nad yw'n ffaith bendant bod y rhai sy'n byw ar incwm is o reidrwydd yn mynd i fod yn ordew. Mae'n gwbl anghywir bod bwyd da yn costio mwy o arian na bwyd sy'n isel o ran cynnwys maethol. Un o'r pwyntiau pwysicaf yn yr adroddiad yw’r gydberthynas rhwng siopau bwyd cyflym ac ardaloedd o amddifadedd, ac mae'n cyfeirio at adroddiad yn Lloegr sy'n dweud eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew os ydych yn byw yn agos at siop bwyd cyflym. Nid wyf yn credu bod hyn yn berthnasol i Loegr yn unig, gan fy mod wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad i arlwywyr Asiaidd yn ddiweddar yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe'i gwnaed yn berffaith glir yno, os ydych yn byw neu'n gweithio yn agos at siop bwyd cyflym, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew. Mae mor blaen â hynny. Felly, nid yw’n fater o fyw ar incwm isel; ond yr ymddygiadau sy'n eich arwain at fynd i siop bwyd cyflym, yn hytrach na gwneud eich bwyd eich hun, sy’n amlwg yn ffordd o osgoi'r pethau niweidiol sy'n cael eu hychwanegu at fwyd wedi'i brosesu er mwyn gwneud elw. Felly, byddwn yn awyddus i glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar bwysigrwydd y bwyd yr ydym yn ei roi i’n plant yn yr ysgol ac a yw e’n credu bod hon yn agwedd lle gallwn sicrhau bod pob plentyn, waeth beth yw arferion ei rieni, yn gallu blasu a phrofi bwyd da, plaen, er mwyn ei alluogi i dyfu i fyny yn bwyta deiet iach.
Yn ddiweddar, ymwelais ag un o'r ysgolion yn Sir y Fflint, sydd i gyd yn dilyn y rhaglen Bwyd am Oes. Maent wedi dyblu nifer y plant sy'n manteisio ar brydau ysgol, ac roedd hyn, meddai’r pennaeth, yn bendant wedi lleihau nifer y plant sy'n dod â bwyd anaddas mewn pecynnau i’r ysgol, sy'n golygu nad yw’r plant hynny mewn gwirionedd yn cael unrhyw faeth yn ystod y diwrnod ysgol. Felly, byddwn yn awyddus i gael gwybod beth mae’r Ysgrifennydd iechyd yn credu yw swyddogaeth awdurdodau lleol wrth hyrwyddo nid dim ond y canllawiau 'Blas am Oes', ond y canllawiau ‘Bwyd Da i Bawb’, sy'n sicrhau bod bwyd wedi’i baratoi yn ffres, yn dod o ffynonellau lleol ac yn cael ei weini’n ddyddiol i'n plant i gyd. Felly, rwy’n credu bod hwn yn adroddiad ardderchog mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl y dylem wrando ar eiriau Dr Mair Parry, o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy'n dweud bod Cymru'n parhau i gael y cyfraddau gwaethaf o ran gordewdra ymhlith plant yn y DU ac yn amlwg bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r diffygion hyn. Mae pryderon yn dal i fodoli ynghylch nifer y plant sy'n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd ac sy'n gwneud ymarfer corff, ac mae’n amlwg bod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd yma.
Rydw i wedi rhedeg allan o amser, ond mae'n debyg mai’r ffaith foel arall yw cyn lleied y mae cymunedau tlawd yn defnyddio deintyddion ac optegwyr. Wrth gwrs, mae'r rhain yn y ddau wasanaeth iechyd—o’u cymharu â meddygon teulu, y maent yn defnyddio llawer mwy arnynt mewn ardaloedd o amddifadedd—y rhain yw’r ddau wasanaeth lle’r ydych mewn gwirionedd yn gorfod talu amdanynt. Mae hyn yn amlwg yn un o'r pethau y mae angen i ni eu hystyried. Mae’n dweud wrthym nad yw pobl dlawd yn gallu cael mynediad at ddeintyddion neu gael sbectol pan fydd eu hangen arnynt, ac mae hynny'n fater pwysig iawn—byddai'n ddefnyddiol gwybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet.
Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei adroddiad, a chofnodi fy niolch i'r Athro Jones am gynnal yr achos yn dilyn ymddeoliad Dr Hussey. Mae Dr Atherton yn ei gwneud yn glir mai’r her iechyd fwyaf sy'n wynebu ein cenedl yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein gwlad. Dylai’r ffaith fod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein hardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yn tyfu fod yn sioc i ni i gyd. Ni allwn sefyll yn segur tra gall y tlotaf yng Nghymru ddisgwyl byw 11 mlynedd yn llai na'r cyfoethocaf.
Mae’r rhesymau dros fodolaeth y graddiant cymdeithasol mewn iechyd yn gymhleth, ond mae ffactorau cyfrannol yn cynnwys diet gwael; camddefnyddio alcohol a smygu yn fwy cyffredin yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ; amodau tai tlotach; fflatiau aml-lawr heb ardd i blant chwarae ynddi, a chael yr ymarfer corff sydd ei angen; amodau llaith yn arwain at broblemau anadlu; a hefyd gyfraddau diweithdra uchel mewn ardaloedd tlotach. Mae pobl yn ein hardaloedd o amddifadedd mwyaf ddwywaith yn fwy tebygol o smygu na’r rheini sy'n byw yn ardaloedd mwy cefnog Cymru. Mae angen cydweithio rhwng gwasanaethau a phartneriaethau i helpu gyda’r anghydraddoldebau hyn.
Er ein bod yn gwneud cynnydd o ran lleihau nifer yr ysmygwyr yn gyffredinol, mae mesurau rheoli tybaco wedi bod yn fwy llwyddiannus wrth leihau’r nifer sy’n dechrau nag annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau iddi. Mae plant sydd ag o leiaf un rhiant yn smygu 72 y cant yn fwy tebygol o smygu yn ystod llencyndod, ac os yw'r ddau riant yn smygu, mae plant bedair gwaith yn fwy tebygol o ddechrau smygu nag ydynt os nad yw unrhyw riant yn smygu. Felly, rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i annog rhieni i roi'r gorau i smygu.
Canfu astudiaeth ar gyfer y British Medical Journal bod ysmygwyr yn amcangyfrif yn rhy isel y risg o ganser yr ysgyfaint, o ran ysmygwyr eraill a rhai nad ydynt yn ysmygu, ac yn dangos camddealltwriaeth o risgiau ysmygu. Caiff hyn ei briodoli i’r ffaith nad ydym, fel rhywogaeth, yn dda iawn am werthuso risg yn y dyfodol. Nid yw dweud wrth rywun y gallant ddatblygu canser mewn 30 neu 40 mlynedd yn anffodus yn eu cymell i roi'r gorau i smygu. Fodd bynnag, rydym yn llawer gwell wrth werthuso risgiau i'n plant. Gall dweud wrth riant bod eu hymddygiad yn annog eu plant i smygu efallai gael y canlyniad a ddymunir.
Mae'n rhaid i ni dderbyn bod llawer o ysmygwyr yn ei chael bron yn amhosibl rhoi'r gorau iddi. Canfu ymchwil gan Ganolfan y DU ar gyfer Astudiaethau Tybaco ac Alcohol bod tua un o bob tri o ysmygwyr yn y DU ar hyn o bryd yn ceisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn, ond dim ond tua un o bob chwech o'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi sy’n parhau i ymwrthod am fwy nag ychydig wythnosau neu fisoedd. Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi yn gwneud hynny heb gael unrhyw gymorth proffesiynol, ac nid yw’n ymddangos bod y rhai sy'n defnyddio triniaethau amnewid nicotin dros y cownter yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi na'r rhai nad ydynt yn cael help.
Fodd bynnag, mae’r rhai sy'n newid i e-sigaréts yn llawer mwy tebygol o roi'r gorau i dybaco. Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn nodi er budd iechyd y cyhoedd, mae'n bwysig hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts, NRT a chynhyrchion nicotin eraill heb dybaco mor eang ag y bo modd i gymryd lle smygu yn y DU.
Mae Iechyd y Cyhoedd Lloegr yn argymell y defnydd o e-sigaréts fel dewis arall i smygu ac yn cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr yn dweud y gallant ystyried caniatáu pobl i ddefnyddio e-sigaréts yn y gwaith os yw'n rhan o bolisi i helpu ysmygwyr tybaco i roi'r gorau i'r arfer. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cymeradwyo brand o e-sigaréts i gael ei farchnata fel cymorth i helpu pobl i roi'r gorau i smygu.
Fel y mae’r prif swyddog meddygol yn ei ddweud yn yr adroddiad hwn, ni ddylai'r GIG wneud y graddiant cymdeithasol yn waeth. Felly, rwy’n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i fabwysiadu dull tebyg i Loegr pan ddaw at e-sigaréts a'u swyddogaeth wrth leihau niwed gan dybaco. Dylem fod yn annog yr ysmygwyr hynny sy'n annhebygol o roi'r gorau iddi i newid i e-sigaréts, gan dynnu sylw at y ffaith bod e-sigaréts 95 y cant yn fwy diogel na chynnyrch tybaco, yn hytrach na chanolbwyntio ar y niwed posibl o ddefnyddio e-sigaréts. Diolch. Diolch yn fawr.
Yn fy marn i, mae hwn yn adroddiad ardderchog. Rwy'n credu bod y ffordd y mae'n cael ei fynegi yn glir iawn ac mae'n dangos yn glir y ffordd y dylem fynd. Croesawaf yn arbennig y pwyslais ar anghydraddoldebau iechyd a graddiant cymdeithasol oherwydd mae’r dystiolaeth yn gwbl glir bod mwy o salwch a marwolaethau cynnar yn fwy cyffredin mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn economaidd. Rydym yn gwybod yng Nghaerdydd ei hun bod y gwahaniaeth rhwng dwy ward, lle efallai y gallwch eu cyrraedd o fewn 10 munud, yn naw i 11 mlynedd o fywyd hirach yn yr ardal fwy cefnog. Ni all hynny fod yn dderbyniol. Hefyd, ni all nifer y marwolaethau ymhlith plant sy'n digwydd mewn ardaloedd difreintiedig o’i gymharu â'r ardaloedd mwy cyfoethog hynny fod yn dderbyniol. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn credu y mae’n rhaid inni weithio arno ac mae'n rhaid i ni ei herio.
Felly, rwy’n croesawu’r pwyslais ar yr anghydraddoldebau iechyd. Rwyf hefyd yn croesawu'r flaenoriaeth glir iawn i’r 1,000 o ddyddiau cyntaf ym mywyd plentyn a bod y dyddiau hynny yn hollbwysig. Credaf fod hwn yn faes y mae'n rhaid i ni bwysleisio arno. Dylai'r wybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rwy’n credu, bennu sut y byddwn yn cynnal ein polisi yn y Cynulliad hwn. Mae’r dystiolaeth mor gryf am yr hyn sy'n digwydd yn nes ymlaen os byddwch yn cael profiad, dyweder, o bedwar neu fwy o’r profiadau niweidiol hynny yn ystod plentyndod. Felly, rwy’n meddwl bod yr holl wybodaeth yno ar sut y mae angen inni weithredu. Yn amlwg, mae sefydlu arferion bwyta da ac iach ac ymarfer corff yn gynnar iawn yn bwysig iawn.
Yr unig beth yr oeddwn i'n synnu nad oedd yn yr adroddiad hwn, ac efallai fy mod wedi colli hynny, ond nid wyf yn credu fy mod wedi gweld unrhyw gyfeiriad at fwydo ar y fron o gwbl. Rwyf o ddifrif yn credu mai dyna un o'r meysydd allweddol y mae angen inni ei ystyried, oherwydd, os ydym yn edrych ar fater bod yn rhy drwm, rydym yn gwybod fod tystiolaeth i ddangos bod plant sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llawer llai tebygol o gael plant rhy drwm. Rydym yn gwybod bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bwydo ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf, ac mae tystiolaeth hefyd i ddangos bod bwydo ar y fron yn lleihau'r risg o fabanod yn cael heintiau. Ar gyfer y fam, mae manteision iechyd hefyd, gan gynnwys llai o risg o ganser y fron a chanser yr ofari ac osteoporosis. Mae'n hanfodol bwysig. Felly, rwy’n synnu nad oes dim yn yr adroddiad hwn, oni bai fy mod i wedi ei golli, sy'n dweud, pan fyddwn yn gweithio yn galed iawn yn y 1000 diwrnod cyntaf, 'Bwydo o'r Fron yw un o'r pethau hollbwysig', gan ei fod yn meithrin perthynas gyda’r fam, ac rydym yn gwybod, drwy edrych ar anghydraddoldebau iechyd, bod llai yn bwydo ar y fron mewn ardaloedd tlotach. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud ymdrech i sicrhau y gellir annog mamau i fwydo ar y fron.
Rydym yn gwybod bod gweithwyr iechyd proffesiynol dan bwysau ac mae'n cymryd amser ac ymdrech i geisio helpu mamau i fwydo ar y fron, oherwydd weithiau nid yw'n hawdd ac mae angen i chi dreulio amser gyda mamau newydd. Gwn hefyd fod tystiolaeth sy'n dangos bod mamau ifanc yn arbennig—mae’r cyfraddau bwydo ar y fron i famau ifanc yn is na'r cyfartaledd. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Yng Nghymru, mae'r cyfraddau bwydo ar y fron uchaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys, ar 72 y cant, a'r isaf yng Nghwm Taf, ar 50 y cant. O edrych ar y babanod sy'n gadael yr unedau newyddenedigol, cyfarfûm, fel y credaf y gwnaeth eraill, â'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac roeddent yn tynnu sylw at y gwahanol gyfraddau bwydo ar y fron ledled y DU pan fydd menywod yn gadael yr unedau newyddenedigol. Roedd y ganran uchaf yn 85 y cant, a'r isaf ar 43 y cant, ac roedd Cymru ar 43 y cant. Felly, nid wyf eisiau tynnu dim oddi ar yr adroddiad hwn, oherwydd rwy’n credu ei fod yn adroddiad gwych, ac rwy’n credu mai dyma’r ffordd y dylem fod yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Ond rwy’n credu bod bwydo ar y fron yn genhadaeth fwy, a does dim pwyslais ar fwydo ar y fron yn yr adroddiad. Mae'n helpu, ar y cam cynharaf posibl, i sefydlu‘r bond hwn—ac rydym yn gwybod am werth a maeth llaeth y fron—ond mae’n rhaid ichi wneud ymdrech i wneud iddo ddigwydd, mewn rhai sefyllfaoedd, ac rwy’n meddwl y dylem fod yn rhoi mwy o adnoddau i mewn i hynny. Ac rwy’n gwybod ei bod yn anodd, weithiau, i famau ifanc yn enwedig deimlo y gallant fwydo ar y fron pan fyddant yn teimlo bod stigma cymdeithasol. Yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, roedd digwyddiad mewn caffi lleol—rydym yn clywed amdanyn nhw bob hyn a hyn, mae’r math hwn o beth yn digwydd—lle’r oedd rhywun yn ddifrïol gyda rhywun oedd yn bwydo ar y fron. Felly, mae’r hinsawdd hwnnw yn dal i fod yno. Felly, mae'n faes y mae angen i ni weithio arno, ac rwy’n meddwl ei fod yn faes lle gallwn wneud gwahaniaeth hirdymor i obeithion plant.
Rwyf innau, hefyd yn croesawu adroddiad y Prif Swyddog Meddygol a'i bwyslais ar greu gwasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch, sy'n rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano am amser hir, a hefyd ei bwyslais ar statws economaidd-gymdeithasol, sydd eto yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod a'i drafod ers peth amser, ond efallai gyda phwyslais newydd yn yr adroddiad penodol hwn. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ffordd o fyw i wahaniaethau mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach, ac rwy'n credu bod nifer o bethau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny a’u canolfannau economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, mae llawer y gellir ei wneud i annog bwyta'n iach. Gallem gael system goleuadau traffig o labelu bwyd, er enghraifft, rwy’n credu, i hysbysu pobl yn llawer mwy clir ynglŷn â pha fwydydd sy’n iach a pha fwydydd sydd ddim yn iach. Gallem gael treth siwgr, neu dreth fraster, er enghraifft. Yn amlwg, mae problemau’n codi o ran yr hyn sydd wedi ei ddatganoli a’r hyn nad yw wedi'i ddatganoli, a bydd rhywfaint ohono, yn ddiau, yn fater o geisio rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU, ond gall rhywfaint ohono fod yn edrych am ddatganoli pellach ac, yn wir, yr hyn y gallem fod yn ei wneud o fewn y pwerau presennol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn, fel yr ydym yn aml yn siarad amdano, Lywydd, ein bod yn meithrin agweddau ac ymddygiad da yn ein pobl ifanc mor gynnar â phosibl. Cytunaf yn llwyr â’r pwyslais ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, ac rwy’n gwybod bod tystiolaeth gynyddol ynglŷn â phwysigrwydd y blynyddoedd cynnar hynny. Mae gennym rwydweithiau ysgolion iach, wrth gwrs, ac rwy'n credu bod rhywfaint o arfer da iawn yno. Mae gennym gyfleoedd newydd, rwy’n credu, i sbarduno gwelliannau i lythrennedd corfforol, yn dilyn adroddiad Tanni Grey, ac o ran adolygu'r cwricwlwm, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn ein bod yn achub ar y cyfleoedd hynny.
Hoffwn ddweud ychydig am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn lleol yng Nghasnewydd, Lywydd, yr wyf wedi’i grybwyll fwy nag unwaith o'r blaen. Rwy’n meddwl ein bod yn gwneud cynnydd o ran tynnu rhai chwaraewyr allweddol at ei gilydd ym maes iechyd y cyhoedd, o’r bwrdd iechyd, Aneurin Bevan; Newport Live, y darparwyr gwasanaethau hamdden; y clybiau chwaraeon; Cartrefi Dinas Casnewydd, a chymdeithasau tai eraill; Cyfoeth Naturiol Cymru—mae llu o chwaraewyr wedi bod yn cyfarfod yn lleol ers peth amser i drafod sut yr ydym yn cael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol a sut yr ydym yn cael ymddygiadau iachach yn fwy cyffredinol. Rydym wedi gwneud cynnydd. Mae sefydliadau wedi ymrwymo i un diwrnod y mis o amser y staff i fynd ar drywydd yr agenda hon. Maent yn edrych ar gamau y gallant ymrwymo iddynt a sut y gallant wneud un peth arall. Maent yn edrych ar enghreifftiau o bob cwr o Gymru ac yn lleol o ran sut y byddwch yn cael y newid ar raddfa ehangach, yn hytrach na rhywbeth sydd yn lleol iawn. Felly, rwy’n credu ein bod yn ceisio gwneud rhywbeth sy'n bwysig yn lleol o ran y materion a amlygwyd yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol. Rwy’n gobeithio hefyd fod ardaloedd eraill yng Nghymru yn edrych ar sut y gallwn adeiladu partneriaethau, dod â chwaraewyr allweddol at ei gilydd a chael cydweithredu newydd. Felly, rwy’n gobeithio, Lywydd, fod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar yr hyn sy'n digwydd ar draws Cymru a hefyd yn edrych yn ofalus ar sut y gallai gefnogi’r mentrau hyn, efallai drwy rai cynlluniau peilot, er enghraifft, a allai gefnogi, adeiladu a chryfhau'r gwaith sy'n digwydd. Rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi sylw i hynny yn ei sylwadau cloi. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gymryd rhan yn nadl heddiw—dadl gydsyniol iawn mewn llawer o ffyrdd, gyda phryderon tebyg a mynegiant o heriau tebyg y gwyddom ein bod oll yn eu hwynebu mewn gwahanol gymunedau ym mhob rhan o'r wlad fwy neu lai.
Rwyf am ddechrau drwy ymdrin â materion a godwyd yn y gwelliant ac yn y cyfraniad gan Rhun ap Iorwerth, ond roedd pob Aelod yn crybwyll heriau ffordd o fyw. Rwy'n credu bod her i ni yma i beidio â chymysgu rhwng bai a chyfrifoldeb. Mae'n iawn nad ydym yn beio pobl, ond mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gael sgwrs am bobl yn cymryd cyfrifoldeb mwy personol a sut yr ydym yn mynd ochr yn ochr â nhw i'w helpu i wneud dewisiadau gwahanol, ac mae’n rhaid iddi fod yn sgwrs yr ydym yn barod i’w chael yn ein swyddogaethau ein hunain, yn ogystal â disgwyl i ofal iechyd a gwasanaethau eraill wneud hynny hefyd. O'r holl wahanol heriau yr ydym yn eu cydnabod o fewn iechyd y cyhoedd—deiet, ymarfer corff, alcohol a smygu yw'r pedwar mawr—ym mhob un o'r rheini, mae pobl yn gwneud dewisiadau. Dyna sut rydym yn arfogi pobl i wneud dewisiadau gwahanol ac yna sut rydym yn arfogi pobl a'u grymuso i wneud dewisiadau mwy iach yn ddiweddarach os na allwn eu hatal rhag ymgymryd ag ymddygiadau peryglus yn y lle cyntaf. Yn wir, alcohol, fel y soniodd Rhun, yw'r un enghraifft lle gallwch ddangos, mewn gwirionedd, mai pobl dosbarth canol yn bennaf sydd â’r broblem gydag yfed—nid yn gymaint y goryfed mewn pyliau, ond y gorddefnydd rheolaidd o alcohol.
Rwy’n cydnabod nifer o'r pwyntiau a wnaed a byddaf yn ceisio ymdrin â hwy cyn i mi ddod i ben, Lywydd. Cafwyd nifer o gwestiynau a phwyntiau diddorol gan Angela Burns. Rwyf am ddechrau drwy ddweud y byddwn yn fodlon iawn cael sgwrs aeddfed am yr hyn yr ydym yn ei fesur a pham o fewn ein gwasanaeth iechyd—y gwahanol fesurau sydd gennym, y ffordd y maent wedi cael eu cynhyrchu ac a allwn ni gael rhywbeth synhwyrol, megis a yw’r hyn yr ydym yn ei fesur yn synhwyrol, a yw'n helpu i hybu ymddygiad cywir ac a yw'n dweud rhywbeth defnyddiol wrthym am berfformiad ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd am y ffordd y mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â'r negeseuon gan y gwasanaeth iechyd hwnnw hefyd. Gallwn edrych ar bethau fel datblygu fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, gan edrych ar ganlyniadau ac nid ar y gweithgarwch yn unig. Rwy'n gobeithio, trwy'r broses adolygu seneddol ar ddiwedd hynny, y gallwn barhau i gael y ddadl honno yn rhan o’r tymor hwn pan, a dweud y gwir, y gallwn ei chael, gan nad wyf yn credu y gallwn gael yr un ddadl yn 12 mis olaf y tymor hwn, os ydym yn berffaith onest.
Rwy'n falch o’ch clywed yn sôn am broses ddeintyddol contractau; mae gen i ddiddordeb yn weithredol ynddynt ac rwy'n edrych ymlaen at y dysgu a gawn o’r cynlluniau peilot hynny ac edrych ar yr hyn y gallem o bosibl ei fabwysiadu ar draws y system. A dweud y gwir, mae iechyd y geg yn faes lle’r ydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant yma yng Nghymru. Mae’r Cynllun Gwên wedi bod yn llwyddiannus. Nid dyma'r unig beth i'w wneud, ac rydym yn cydnabod yn y gwasanaethau deintyddol cyffredinol, bod heriau o hyd i ni fynd i'r afael â nhw ac ymdrin â nhw. Rwy'n credu bod cysylltiad yma rhwng gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau fferyllol, oherwydd mae rhywbeth nid yn unig yn ymwneud â gwobrwyo gweithgarwch a maint, ond rhywbeth am y ffordd yr ydych yn gwobrwyo ansawdd. Oherwydd mewn fferylliaeth, a grybwyllwyd gennych, ac rwy’n gwybod bod Aelodau eraill wedi sôn am hyn mewn gwahanol ddadleuon yma yn y gorffennol—credaf fod amser cyffrous iawn ym maes fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ein bod yn buddsoddi mewn platfform TG i alluogi fferylliaeth i wneud mwy, nid yn unig oherwydd bod ein partneriaid a’n cydweithwyr yn y Gymdeithas Feddygol Prydain mewn gwirionedd mewn lle gwahanol; mae'n ymwneud â chydnabod gwerth fferylliaeth fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae'r cyfle yno i geisio deall beth arall y gall fferylliaeth ei wneud i dynnu pobl i ffwrdd o’r feddygfa pan nad oes angen iddynt fod yno, i fod yn rhan o'r tîm, ond hefyd i edrych ar daliadau o ansawdd ar gyfer y dyfodol, nid dim ond am faint a gweithgarwch o ran rhagnodi, ond, i'r un graddau, rwy’n meddwl bod darn pwysig iawn o waith eisoes ar waith yn y broses rhyddhau o'r ysbyty. Mae llawer mwy y gallem ei wneud dros fferylliaeth gymunedol, yr unigolyn a gwasanaeth fferyllol yr ysbytai hefyd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, y peth arall yw bod llawer o bobl yr ydym wedi siarad amdanynt heddiw, sy'n cael trafferth cael mynediad at nifer o'r gwasanaethau hyn, yn mynd at y fferyllydd. Maent yn mynd at y fferyllydd yn rheolaidd i gael y meddyginiaethau sydd wedi eu rhagnodi iddynt oherwydd eu ffordd o fyw, ac mae hynny’n rhoi cyfle gwych o bosib i'r fferyllydd gael cwrdd â nhw a’u helpu i wneud penderfyniadau gwell am y ffordd ymlaen iddynt. Felly, gallwn ddefnyddio’r fferyllydd fel ymgynghorydd o ran ffordd o fyw ac ymddygiad.
Dyna’r union reswm pam rydym yn buddsoddi yn ein rhwydwaith fferylliaeth gymunedol, a dyna pam rydym yn cyflwyno buddsoddiad ychwanegol yn y llwyfan TG ac yn disgwyl iddynt wneud mwy. Nawr, dyna sgwrs agored yr ydym yn ei chael ac rwy'n falch ar y cyfan fod nid yn unig bwyllgor fferyllol, ond swyddogaeth Fferylliaeth Gymunedol Cymru sydd o ddifrif â meddwl agored am y dyfodol. Mae'n rhywbeth cadarnhaol gwirioneddol, ac mae'n gyferbyniad defnyddiol rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n credu y gall pawb ym mhob rhan fod yn falch iawn ein bod yn dilyn y dull hwn o weithredu yma yng Nghymru.
Mae nifer o bobl wedi crybwyll addysg a phwysigrwydd, nid yn unig y cwricwlwm newydd a’i agweddau ar iechyd a lles, gan gynnwys perthnasoedd, ond yr holl bwynt hwn am ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone wedi sôn am hwn hefyd. Mae'n bendant yn rhan o agenda'r Llywodraeth hon, nid yn unig i wella ein cynnig gofal plant, ond i feddwl am sut yr ydym yn ychwanegu elfen o ansawdd gwirioneddol i hyn, fel nad yw’n ymwneud â maint yn unig ond ansawdd yr ymyrraeth honno hefyd. Oherwydd rydym yn cydnabod nad talent yw'r rheswm pam mae cymunedau cyfoethocach yn perfformio'n well na chymunedau tlotach, o ran canlyniadau addysgol ac yn wir rhai economaidd ar ei ddiwedd hefyd. Mae llawer mwy iddi na hynny. Rwy'n hapus i gydnabod y pwyntiau a wnaeth Julie Morgan ac Angela Burns am brofiadau niweidiol plant a'u heffaith ar ganlyniadau pobl yn ddiweddarach mewn bywyd, ond yn benodol y rhai gwirioneddol bwysig yw'r 1,000 diwrnod cyntaf, a'r flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i hynny hefyd.
Nid yw'n cael ei grybwyll yn benodol yn yr adroddiad, ond fel rhan o raglen Plant Iach Cymru a'r pwyslais ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, nid oes llaesu dwylo o ran pwysigrwydd bwydo ar y fron ychwaith. Mae rhywbeth am: ai 'y fron sydd orau' yw’r neges o hyd neu ‘mae’r fron yn normal'? Oherwydd mewn gwirionedd mae angen i ni ail-normaleiddio bwydo ar y fron oherwydd, rydych chi'n iawn, mae llawer gormod o enghreifftiau o'r ffordd y mae pobl yn ymateb yn wael neu yn ymosodol pan fydd rhywun yn bwydo ar y fron yn dal i fodoli. Mae'n broses gwbl naturiol ac mae'n dda i’r plentyn a'r fam hefyd, fel y byddwch yn cydnabod mae llawer o waith ymchwil ar gyfer hynny hefyd.
Rwy'n falch o glywed na wnaeth John Griffiths golli'r cyfle i ddweud wrthym am ddiweddariad Casnewydd hefyd, ond rwyf am fynd i'r afael efallai ag un o'r pwyntiau a wnaeth Caroline Jones. Yn yr adroddiad, rydym yn cydnabod cyfradd wahaniaethol smygu a'i heffaith wirioneddol ar ganlyniadau iechyd. Nid wyf yn rhannu eich brwdfrydedd yn llwyr dros e-sigaréts fel y ffordd ymlaen ac ateb i bob problem bron ar gyfer ysmygu. Mae tystiolaeth sydd yn groes ar hyn o bryd. Mae rhai o'r rhai sydd o blaid e-sigaréts fel dewis amgen, mae tystiolaeth amgen gan Gymdeithas Feddygol Prydain a chan Sefydliad Iechyd y Byd hefyd. Rwy’n credu ein bod yn gwneud y peth iawn wrth gadw meddwl agored, ond barn ragofalus ar e-sigaréts fel arf posibl i helpu pobl i roi'r gorau i smygu, ond nid ydynt yn ddewis amgen heb niwed yn lle smygu. Mae niwed yn dal i fod yn gysylltiedig ag e-sigaréts. Rydym yn awyddus i fonitro a deall y dystiolaeth honno cyn i ni ddod i gasgliad pendant.
O ran y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am ordewdra a diabetes yn enwedig mewn plant a phobl ifanc, a phwysigrwydd bwyd a maeth mewn ysgolion ac mewn cymunedau ehangach, mae her wirioneddol yma nid yn unig am yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion, oherwydd rwyf yn falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion ar draws y wlad, ond o ran cael neges bwyta'n iach glir iawn a’r bwyd a ddarperir i bobl mewn lleoliad ysgol. Mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ond mae'n rhaid iddo fod yn gweithio gyda'r gymuned ysgol gyfan fel bod rhieni a gofalwyr yn deall y dewisiadau a wnânt y tu allan i gatiau'r ysgol a'r effaith sydd ganddynt, oherwydd mewn gwirionedd mae’r neges yn bwysicach na'r un y mae plant yn ei chael yn yr ysgol.
Lywydd, rwy'n falch iawn gyda'r ddadl a gawsom yma heddiw a'r gydnabyddiaeth bod anghydraddoldebau iechyd yn codi oherwydd anghydraddoldebau mewn cymdeithas, oherwydd yr amodau y mae pobl yn cael eu geni oddi tanynt, yn tyfu, byw, gweithio a heneiddio ynddynt, ac ysgogiadau strwythurol y cyflyrau hynny—dosbarthiad annheg o bŵer, arian, adnoddau a chyfle. Mae’r Athro Syr Michael Marmot, arbenigwr cydnabyddedig ym maes penderfynyddion iechyd ac anghydraddoldebau iechyd, wedi gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd yn ei adroddiad, 'Bywydau Iach Cymdeithas Deg'. Mae'n tynnu sylw at y rhan fwyaf o'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a graddiant cymdeithasol i ddigwydd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd.
Rwyf wrth fy modd o fod wedi cymryd rhan mewn trafodaeth ddefnyddiol ac adeiladol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y Siambr dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni geisio cyflwyno nid dim ond y neges yn yr adroddiad hwn, ond sut mae gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud.
Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.
Cynnig NDM6175 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ‘Adfer cydbwysedd i ofal iechyd—Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol’.
Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, fe dderbynnir y cynnig.
We now move to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.