Part of the debate – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.