Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gymryd rhan yn nadl heddiw—dadl gydsyniol iawn mewn llawer o ffyrdd, gyda phryderon tebyg a mynegiant o heriau tebyg y gwyddom ein bod oll yn eu hwynebu mewn gwahanol gymunedau ym mhob rhan o'r wlad fwy neu lai.
Rwyf am ddechrau drwy ymdrin â materion a godwyd yn y gwelliant ac yn y cyfraniad gan Rhun ap Iorwerth, ond roedd pob Aelod yn crybwyll heriau ffordd o fyw. Rwy'n credu bod her i ni yma i beidio â chymysgu rhwng bai a chyfrifoldeb. Mae'n iawn nad ydym yn beio pobl, ond mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gael sgwrs am bobl yn cymryd cyfrifoldeb mwy personol a sut yr ydym yn mynd ochr yn ochr â nhw i'w helpu i wneud dewisiadau gwahanol, ac mae’n rhaid iddi fod yn sgwrs yr ydym yn barod i’w chael yn ein swyddogaethau ein hunain, yn ogystal â disgwyl i ofal iechyd a gwasanaethau eraill wneud hynny hefyd. O'r holl wahanol heriau yr ydym yn eu cydnabod o fewn iechyd y cyhoedd—deiet, ymarfer corff, alcohol a smygu yw'r pedwar mawr—ym mhob un o'r rheini, mae pobl yn gwneud dewisiadau. Dyna sut rydym yn arfogi pobl i wneud dewisiadau gwahanol ac yna sut rydym yn arfogi pobl a'u grymuso i wneud dewisiadau mwy iach yn ddiweddarach os na allwn eu hatal rhag ymgymryd ag ymddygiadau peryglus yn y lle cyntaf. Yn wir, alcohol, fel y soniodd Rhun, yw'r un enghraifft lle gallwch ddangos, mewn gwirionedd, mai pobl dosbarth canol yn bennaf sydd â’r broblem gydag yfed—nid yn gymaint y goryfed mewn pyliau, ond y gorddefnydd rheolaidd o alcohol.
Rwy’n cydnabod nifer o'r pwyntiau a wnaed a byddaf yn ceisio ymdrin â hwy cyn i mi ddod i ben, Lywydd. Cafwyd nifer o gwestiynau a phwyntiau diddorol gan Angela Burns. Rwyf am ddechrau drwy ddweud y byddwn yn fodlon iawn cael sgwrs aeddfed am yr hyn yr ydym yn ei fesur a pham o fewn ein gwasanaeth iechyd—y gwahanol fesurau sydd gennym, y ffordd y maent wedi cael eu cynhyrchu ac a allwn ni gael rhywbeth synhwyrol, megis a yw’r hyn yr ydym yn ei fesur yn synhwyrol, a yw'n helpu i hybu ymddygiad cywir ac a yw'n dweud rhywbeth defnyddiol wrthym am berfformiad ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd am y ffordd y mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â'r negeseuon gan y gwasanaeth iechyd hwnnw hefyd. Gallwn edrych ar bethau fel datblygu fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, gan edrych ar ganlyniadau ac nid ar y gweithgarwch yn unig. Rwy'n gobeithio, trwy'r broses adolygu seneddol ar ddiwedd hynny, y gallwn barhau i gael y ddadl honno yn rhan o’r tymor hwn pan, a dweud y gwir, y gallwn ei chael, gan nad wyf yn credu y gallwn gael yr un ddadl yn 12 mis olaf y tymor hwn, os ydym yn berffaith onest.
Rwy'n falch o’ch clywed yn sôn am broses ddeintyddol contractau; mae gen i ddiddordeb yn weithredol ynddynt ac rwy'n edrych ymlaen at y dysgu a gawn o’r cynlluniau peilot hynny ac edrych ar yr hyn y gallem o bosibl ei fabwysiadu ar draws y system. A dweud y gwir, mae iechyd y geg yn faes lle’r ydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant yma yng Nghymru. Mae’r Cynllun Gwên wedi bod yn llwyddiannus. Nid dyma'r unig beth i'w wneud, ac rydym yn cydnabod yn y gwasanaethau deintyddol cyffredinol, bod heriau o hyd i ni fynd i'r afael â nhw ac ymdrin â nhw. Rwy'n credu bod cysylltiad yma rhwng gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau fferyllol, oherwydd mae rhywbeth nid yn unig yn ymwneud â gwobrwyo gweithgarwch a maint, ond rhywbeth am y ffordd yr ydych yn gwobrwyo ansawdd. Oherwydd mewn fferylliaeth, a grybwyllwyd gennych, ac rwy’n gwybod bod Aelodau eraill wedi sôn am hyn mewn gwahanol ddadleuon yma yn y gorffennol—credaf fod amser cyffrous iawn ym maes fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ein bod yn buddsoddi mewn platfform TG i alluogi fferylliaeth i wneud mwy, nid yn unig oherwydd bod ein partneriaid a’n cydweithwyr yn y Gymdeithas Feddygol Prydain mewn gwirionedd mewn lle gwahanol; mae'n ymwneud â chydnabod gwerth fferylliaeth fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae'r cyfle yno i geisio deall beth arall y gall fferylliaeth ei wneud i dynnu pobl i ffwrdd o’r feddygfa pan nad oes angen iddynt fod yno, i fod yn rhan o'r tîm, ond hefyd i edrych ar daliadau o ansawdd ar gyfer y dyfodol, nid dim ond am faint a gweithgarwch o ran rhagnodi, ond, i'r un graddau, rwy’n meddwl bod darn pwysig iawn o waith eisoes ar waith yn y broses rhyddhau o'r ysbyty. Mae llawer mwy y gallem ei wneud dros fferylliaeth gymunedol, yr unigolyn a gwasanaeth fferyllol yr ysbytai hefyd.