10. 6. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:44, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Dyna’r union reswm pam rydym yn buddsoddi yn ein rhwydwaith fferylliaeth gymunedol, a dyna pam rydym yn cyflwyno buddsoddiad ychwanegol yn y llwyfan TG ac yn disgwyl iddynt wneud mwy. Nawr, dyna sgwrs agored yr ydym yn ei chael ac rwy'n falch ar y cyfan fod nid yn unig bwyllgor fferyllol, ond swyddogaeth Fferylliaeth Gymunedol Cymru sydd o ddifrif â meddwl agored am y dyfodol. Mae'n rhywbeth cadarnhaol gwirioneddol, ac mae'n gyferbyniad defnyddiol rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n credu y gall pawb ym mhob rhan fod yn falch iawn ein bod yn dilyn y dull hwn o weithredu yma yng Nghymru.

Mae nifer o bobl wedi crybwyll addysg a phwysigrwydd, nid yn unig y cwricwlwm newydd a’i agweddau ar iechyd a lles, gan gynnwys perthnasoedd, ond yr holl bwynt hwn am ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone wedi sôn am hwn hefyd. Mae'n bendant yn rhan o agenda'r Llywodraeth hon, nid yn unig i wella ein cynnig gofal plant, ond i feddwl am sut yr ydym yn ychwanegu elfen o ansawdd gwirioneddol i hyn, fel nad yw’n ymwneud â maint yn unig ond ansawdd yr ymyrraeth honno hefyd. Oherwydd rydym yn cydnabod nad talent yw'r rheswm pam mae cymunedau cyfoethocach yn perfformio'n well na chymunedau tlotach, o ran canlyniadau addysgol ac yn wir rhai economaidd ar ei ddiwedd hefyd. Mae llawer mwy iddi na hynny. Rwy'n hapus i gydnabod y pwyntiau a wnaeth Julie Morgan ac Angela Burns am brofiadau niweidiol plant a'u heffaith ar ganlyniadau pobl yn ddiweddarach mewn bywyd, ond yn benodol y rhai gwirioneddol bwysig yw'r 1,000 diwrnod cyntaf, a'r flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i hynny hefyd.

Nid yw'n cael ei grybwyll yn benodol yn yr adroddiad, ond fel rhan o raglen Plant Iach Cymru a'r pwyslais ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, nid oes llaesu dwylo o ran pwysigrwydd bwydo ar y fron ychwaith. Mae rhywbeth am: ai 'y fron sydd orau' yw’r neges o hyd neu ‘mae’r fron yn normal'? Oherwydd mewn gwirionedd mae angen i ni ail-normaleiddio bwydo ar y fron oherwydd, rydych chi'n iawn, mae llawer gormod o enghreifftiau o'r ffordd y mae pobl yn ymateb yn wael neu yn ymosodol pan fydd rhywun yn bwydo ar y fron yn dal i fodoli. Mae'n broses gwbl naturiol ac mae'n dda i’r plentyn a'r fam hefyd, fel y byddwch yn cydnabod mae llawer o waith ymchwil ar gyfer hynny hefyd.

Rwy'n falch o glywed na wnaeth John Griffiths golli'r cyfle i ddweud wrthym am ddiweddariad Casnewydd hefyd, ond rwyf am fynd i'r afael efallai ag un o'r pwyntiau a wnaeth Caroline Jones.  Yn yr adroddiad, rydym yn cydnabod cyfradd wahaniaethol smygu a'i heffaith wirioneddol ar ganlyniadau iechyd.  Nid wyf yn rhannu eich brwdfrydedd yn llwyr dros e-sigaréts fel y ffordd ymlaen ac ateb i bob problem bron ar gyfer ysmygu.  Mae tystiolaeth sydd yn groes ar hyn o bryd.  Mae rhai o'r rhai sydd o blaid e-sigaréts fel dewis amgen, mae tystiolaeth amgen gan Gymdeithas Feddygol Prydain a chan Sefydliad Iechyd y Byd hefyd. Rwy’n credu ein bod yn gwneud y peth iawn wrth gadw meddwl agored, ond barn ragofalus ar e-sigaréts fel arf posibl i helpu pobl i roi'r gorau i smygu, ond nid ydynt yn ddewis amgen heb niwed yn lle smygu.  Mae niwed yn dal i fod yn gysylltiedig ag e-sigaréts.  Rydym yn awyddus i fonitro a deall y dystiolaeth honno cyn i ni ddod i gasgliad pendant.

O ran y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am ordewdra a diabetes yn enwedig mewn plant a phobl ifanc, a phwysigrwydd bwyd a maeth mewn ysgolion ac mewn cymunedau ehangach, mae her wirioneddol yma nid yn unig am yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion, oherwydd rwyf yn falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion ar draws y wlad, ond o ran cael neges bwyta'n iach glir iawn a’r bwyd a ddarperir i bobl mewn lleoliad ysgol. Mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ond mae'n rhaid iddo fod yn gweithio gyda'r gymuned ysgol gyfan fel bod rhieni a gofalwyr yn deall y dewisiadau a wnânt y tu allan i gatiau'r ysgol a'r effaith sydd ganddynt, oherwydd mewn gwirionedd mae’r neges yn bwysicach na'r un y mae plant yn ei chael yn yr ysgol.

Lywydd, rwy'n falch iawn gyda'r ddadl a gawsom yma heddiw a'r gydnabyddiaeth bod anghydraddoldebau iechyd yn codi oherwydd anghydraddoldebau mewn cymdeithas, oherwydd yr amodau y mae pobl yn cael eu geni oddi tanynt, yn tyfu, byw, gweithio a heneiddio ynddynt, ac ysgogiadau strwythurol y cyflyrau hynny—dosbarthiad annheg o bŵer, arian, adnoddau a chyfle. Mae’r Athro Syr Michael Marmot, arbenigwr cydnabyddedig ym maes penderfynyddion iechyd ac anghydraddoldebau iechyd, wedi gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd yn ei adroddiad, 'Bywydau Iach Cymdeithas Deg'.  Mae'n tynnu sylw at y rhan fwyaf o'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a graddiant cymdeithasol i ddigwydd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd.

Rwyf wrth fy modd o fod wedi cymryd rhan mewn trafodaeth ddefnyddiol ac adeiladol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y Siambr dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni geisio cyflwyno nid dim ond y neges yn yr adroddiad hwn, ond sut mae gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud.