2. Cwestiwn Brys: Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:19, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn briodol ac er lles gorau y sefydliad. Bu swyddogion yn ymwybodol o densiynau ar y bwrdd yn ystod y ddwy neu dair wythnos diwethaf, ond y disgwyliad mewn gwirionedd oedd y byddai'r prosesau llywodraethu arferol yn galluogi'r bwrdd i reoli hyn a chyrraedd datrysiad cytûn. Ond ni ddigwyddodd hynny. Mae Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac, fel y cyfryw, mae ganddo broses lywodraethu ddatblygedig, felly ni fyddwn ond yn ymyrryd mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn gyffredinol, rydym yn disgwyl i bob un o'n cyrff noddedig ddatrys eu problemau eu hunain. Nid oeddent yn gallu defnyddio'r broses lywodraethu i ddatrys y problemau, a phan fydd hyn yn digwydd, gellir codi’r problemau wedyn gyda Llywodraeth Cymru. Ond daethpwyd i’r casgliad bod camweithredu, a dyna lle'r ydym ni yn awr, ar sail y ffaith bod y bwrdd wedi cyrraedd pwynt o fabwysiadu pleidlais o ddiffyg hyder heb ddilyn holl gamau’r ddau lwybr hynny.

Mae adolygiad y cadeirydd, a'r adolygiad o sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gomisiynu, ar wahân. Mae’n ymddangos eu bod wedi’u cyfuno yn yr adroddiadau diweddar yn y wasg. Mae'n werth nodi fy mod wedi cwrdd â dau o'r pedwar aelod o'r panel annibynnol, sy'n gweithio ar adolygiad y cadeirydd y bore yma i drafod y ffordd ymlaen ar gyfer yr adolygiad hwnnw gan y cadeirydd. Roedd yr aelodau o’r panel y cyfarfûm â nhw hefyd yn cynrychioli’r ddau aelod arall o'r panel nad oeddent yn gallu bod yma heddiw.

Rwyf eisiau achub ar y cyfle hwn i ganmol y panel am yr uniondeb y maen nhw wedi’i ddangos yn y gwaith a wnaed hyd yn hyn. Maen nhw’n glir iawn y bydd y themâu sy'n dod i’r amlwg yn adolygiad y cadeirydd yn ei gwneud yn adolygiad gan gymheiriaid yn ofynnol. Felly, rwy’n disgwyl i'r gwaith hwn ddod i ben yn gynnar yn y flwyddyn newydd, pan fydd yr adolygiad o sicrwydd wedi’i gwblhau. Bydd yr adroddiad terfynol wedyn yn darparu canllawiau i ni hefyd ar y ffordd ymlaen ar gyfer y sector. Ac, wrth gwrs, rwy'n awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.