Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 29 Tachwedd 2016.
A wnewch chi benodi bwrdd dros dro i symud pethau ymlaen ac a wnewch chi dderbyn pryderon yn ehangach, gan, efallai, sefydliadau sydd eisoes yn rhyngweithio â’r corff? Ac mae'n debyg mai fy mhrif gwestiwn yw: sut ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn pryd yr ataliwyd y bwrdd yr wythnos diwethaf? Oni ddylai’r pethau hyn fod wedi eu datrys cyn cyrraedd y pwynt hwn?