Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a diolch iddo fe am gadarnhau bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers dwy flynedd a rhagor am y cynllun hwn. Bu peth dryswch dros y Sul bod y cynllun hwn yn ymwneud ag adleoli S4C i Gaerfyrddin. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes sôn o gwbl am arian Llywodraeth Cymru yn mynd at adleoli S4C—mae hynny’n benderfyniad i gorfforaeth S4C ei hunan? Ond, wrth gwrs, mae Yr Egin yn ymgais gan y brifysgol a phartneriaid i greu clwstwr ar gyfer diwydiannau creadigol yn y gorllewin ac yng Nghaerfyrddin, ac a fydd yn gartref i S4C a nifer eraill o gyrff a diwydiannau creadigol yn ogystal, gan greu hyd at 100 o swyddi o ansawdd da yn y gorllewin.
Wrth fynd ymlaen, a wnaiff y Gweinidog hefyd gadarnhau bod y cynllun—nid oes penderfyniad eto, wrth gwrs, i fuddsoddi ai peidio yn y cynllun—yn gydnaws â strategaeth ddiwydiannau creadigol y Llywodraeth ac yn gydnaws hefyd â strategaethau adeiladu’r economi iaith y Llywodraeth? Yn olaf, pryd y cawn ni ddisgwyl penderfyniad gan y Llywodraeth ynglŷn â sefydlogrwydd y cynllun hwn er mwyn tawelu meddyliau pobl sydd, efallai, wedi camgymryd bod hwn yn rhywbeth i wneud â S4C?