3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:25, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod i’n gobeithio y deuir i gasgliad yn fuan iawn ar y mater hwn. Mae’r Aelod hefyd yn gywir bod angen i ni wahaniaethu rhwng S4C yn symud a chyfanrwydd prosiect Yr Egin, sy'n ganolbwynt uchelgeisiol i ddiwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin. O ran cyllid S4C ar gyfer ei chyfran o'r prosiect, mae S4C eisoes wedi nodi ei bod yn credu ei bod yn ariannu ei chyfran hi o'r datblygiad yn llawn. O ran y cyllid ychwanegol hefyd, y bwriad gwreiddiol oedd bod y Drindod Dewi Sant yn darparu cronfeydd strwythurol i ddiwallu yr hyn sydd erbyn hyn yn ddiffyg, ond mae’r symiau sylweddol is a ddyrannwyd i'r flaenoriaeth seilwaith rhanbarthol ar gyfer cronfeydd strwythurol yn golygu nad yw’r arian hwn yn ddewis bellach, felly mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ystyried a phenderfynu a fyddem ni’n gallu rhoi cymorth grant i'r datblygiad i ateb y diffyg a nodwyd. Cymeradwyaf y brifysgol am ei huchelgais i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol, ac, yn wir, economaidd, yn yr ardal, a chredaf ei bod yn werth nodi bod SA1 a cham 2 Yr Egin wedi cael cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer y datblygu.