3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:34, 29 Tachwedd 2016

Wrth gwrs, rwyf yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i fuddsoddi yn y de-orllewin, yn y diwydiannau creadigol. Rydym wedi gweld buddsoddiad fan hyn yng Nghaerdydd yn Gloworks—Gloworks 2 efallai ar y gorwel—a Pontio ym Mangor. Mae eisiau buddsoddi yn y diwydiannau creadigol ym mhob rhan o Gymru, ac mae eisiau gweld hynny yn y de-orllewin. A gaf ofyn iddo fe—? Rwyf eisiau gweld pob rhan o Gymru yn llwyddo, felly a gaf ofyn iddo fe i edrych, wrth iddo fe asesu y strategaeth economaidd newydd i Gymru, ar y rôl bositif y mae ad-leoliadau yn gallu cyflawni? Mae e wedi mynegi y bwriad, wrth gwrs, i gael pencadlys y banc datblygu yng ngogledd Cymru, ac rwy’n cefnogi hynny o beth. Pam na allwn ni gael yr awdurdod refeniw Cymreig newydd yn y gogledd-orllewin, wrth gwrs, i wneud yn iawn am y swyddi sydd wedi cael eu colli yno drwy Gyllid y Wlad? Ac, a ydym ni’n gallu cael cynllun cenedlaethol i Gymru gyfan? Roedd yna seiliau iddo fe yn y cynllun gofodol—y ‘spatial plan’—ac, yn anffodus, mae hynny wedi mynd off yr agenda. A allwn ni gael hynny nôl yn greiddiol, fel rhan o’n strategaeth economaidd, fel ein bod ni’n gallu gweld buddsoddiadau ym mhob rhan o Gymru a’r sector cyhoeddus, lle mae’n gallu, yn chwarae ei ran yn hynny?