Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud fy mod i’n credu ei fod yn hollol iawn. Yn gyntaf, credaf fod temtasiwn i lawer—wel, i bob un ohonom—siarad fel aelodau'r meinciau cefn ar ran ein rhanbarthau a’n hetholaethau priodol. Ond mae'n hanfodol i gydnabod y ceir cyfleoedd i hybu’r broses o greu cyfoeth ledled Cymru. Er ein bod yn sôn yn bennaf heddiw am Gaerfyrddin, rwyf yn credu bod y diwydiannau creadigol yn cynnig cyfleoedd ar hyd a lled y wlad, fel y mae sectorau allweddol eraill. Rwyf yn cytuno ag Adam Price fod adleoli a diganoli, yn arbennig sefydliadau'r sector cyhoeddus, i ardaloedd lle y gall twf economaidd wedyn gael ei sbarduno gan eu presenoldeb, yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu y bydd hyn yn elfen ddiddorol o waith swyddogion ar hyn o bryd, sy’n ymwneud â'r strategaeth economaidd, o ran sut yr ydym yn defnyddio arian cyhoeddus a'r sector cyhoeddus i sbarduno twf yn y sector preifat, lle y ceir potensial, ond nad oes yr ysgogiad angenrheidiol hwnnw eto i sbarduno’r twf yn y sectoraidd mewn gwirionedd.