Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 29 Tachwedd 2016.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, ynni a newid hinsawdd o ran polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ynghylch taliadau ffermio a systemau cefnogi ffermydd yn arbennig? Rwy'n bryderus iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio fel ceffyl pren Caerdroea gan rai pobl i ennill tir o ran polisi datganoledig Cymru. Dim ond yr wythnos hon y clywsom arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn honni y byddai ffermwyr yn hapusach pe byddai San Steffan yn gwneud penderfyniadau o ran polisi ffermio yn hytrach nag yma yn ein Senedd ni a etholir yn ddemocrataidd. Wel, nid wyf i’n hapus, ac nid yw’r ffermwyr yr wyf i’n siarad â nhw yn hapus am hynny.
Nid ydyn nhw bob amser yn hapus â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, wrth gwrs, ond ceir gwahaniaeth rhwng Llywodraeth a Senedd, ac ni ddylai fod yn iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Ceidwadwyr nid yn unig i adennill y cyfrifoldeb dros bolisi ffermio oddi ar Gymru—ac, yn ei dro, y polisi amgylcheddol, gan eu bod yn mynd law yn llaw—ond hefyd rydym ni eisoes wedi clywed y dylai San Steffan gadw rheolaeth dros bolisi cyllido cydgyfeirio a datblygu rhanbarthol hefyd.
Rydym eisiau i San Steffan gadw ei dwylo blewog oddi ar ein polisïau sydd eisoes wedi’u datganoli fel y gall Llywodraethau’r dyfodol yma wneud penderfyniadau dros bobl Cymru. Yr hyn sydd wir wrth wraidd hyn, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwybod na fyddant byth yn ennill mwyafrif yn y Senedd hon, felly maen nhw’n defnyddio dull drws cefn Llywodraeth Geidwadol—[Torri ar draws.]—Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wneud penderfyniadau o ran polisïau ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi bod yn brwydro yn erbyn hynny am 40 o flynyddoedd ac enillasom y frwydr honno ac ni fyddwn yn brwydro eto.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog mai’r hyn sydd ar goll yw’r ffaith y ceir rhywfaint o wactod. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau clir y gall ffermwyr Cymru gael gafael arnyn nhw, fynegi barn arnyn nhw neu, o bosibl, gytuno â nhw neu ddweud y dylid gwneud rhywbeth gwahanol, ceir gwactod lle y caiff y syniadau niweidiol hyn eu dosbarthu gan y Ceidwadwyr. Felly, rwy’n credu y byddai'n werthfawr iawn i Lywodraeth Cymru yn awr, nodi ei hegwyddorion o ran sut y bydd yn bwrw ymlaen â hyn.
Pwynt olaf ynglŷn â hynny, yr wyf o’r farn y dylai’r datganiad fynd i'r afael ag ef, yw’r ffaith y ceir byd o wahaniaeth rhwng pedair gwlad yn dod at ei gilydd ar lefel y DU a chytuno ar bethau sydd o les cyffredin ym maes ffermio a'r amgylchedd, gan gynnwys pethau fel lles anifeiliaid a safonau cigydda a’r holl fath hynny o—glefydau anifeiliaid. Ceir byd o wahaniaeth rhwng hynny a San Steffan yn penderfynu ac wedyn yn dweud wrthym ni beth i'w wneud.
Yr ail elfen yr hoffwn ddatganiad yn ei chylch, gan fy mod yn credu bod hyn yn gysylltiedig ond ychydig ar wahân, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â'r argyfwng posibl o ran gweithwyr fferm mudol y flwyddyn nesaf. Wedi’i hamlygu eisoes yw’r ffaith bod cnydau hwyr yn y tymor—blodfresych, tatws ac ati—ar hyn o bryd, mae gennym ni oddeutu 70 y cant o'r gweithlu mudol sydd ei angen arnom i hel y cnydau hynny. Efallai nad ymddengys fod hynny’n broblem fawr i Gymru ar hyn o bryd, a’i bod yn fwy o broblem i Swydd Lincoln a rhannau o Loegr, ond mae gennym rhwng 20,000 a 30,000 o weithwyr fferm mudol a gweithwyr cynhyrchu bwyd yn dod i Gymru bob blwyddyn, ac, os ydym ni’n gweld gostyngiad tebyg i hynny y flwyddyn nesaf, yna byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein lladd-dai, byddwn ni’n ei chael yn anodd parhau i hel rhai o’n cnydau tymhorol, a byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein cyfleusterau cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i roi'r sicrwydd angenrheidiol i weithwyr yr UE ddod i wneud y gwaith mudol hwnnw, yna mae angen i ni ystyried o'r newydd y syniad o fisâu gwaith yng Nghymru a dadlau'r achos dros hynny, oherwydd bod yn rhaid bodloni ein hanghenion amaethyddol a’n hanghenion o ran gweithlu er mwyn sicrhau bod bwyd ar ein platiau. Felly, rwy’n gobeithio y cawn ddau ddatganiad gan y Llywodraeth ar y materion hynny.