6. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:13, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Simon Thomas am godi hynny heddiw. Mewn gwirionedd, roedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffair aeaf Frenhinol Cymru ddoe. Rwy'n credu ei fod wedi cael croeso cynnes; bod ei chyhoeddiad ynglŷn â thaliadau erbyn 1 Rhagfyr wedi cael croeso cynnes—yn sicr darllenais i’r dyfyniadau gan undebau’r ffermwyr—gan gydnabod, unwaith eto, fod amaethyddiaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr ac wedi bod felly ers 1999, ac rydym wedi cyflawni mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio, â'r sector amaethyddol, mewn partneriaeth mewn Llywodraeth â chi ac mewn Llywodraeth â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a hefyd, wrth gwrs, mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio. A dyna sut yr ydym ni’n dymuno ei ddatblygu. Os edrychwch chi ar fframweithiau rheoleiddio’r UE, wrth gwrs, pan na chânt eu gweithredu mwyach, mater ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, mater ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon ydyw i benderfynu sut ac os—fel yr ydych chi’n dweud, ceir meysydd lle y gall fod fframweithiau ar draws y DU gyda Llywodraeth y DU—ond ein cyfrifoldeb ni ydyw.

Nawr, byddwn yn dadlau—o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet, y bu’n gant y cant ers canlyniad y refferendwm. Nid yn unig y mae hi wedi gwneud datganiadau a oedd yn ymateb i hyn, ond rwy’n credu ei bod yn werth dweud eto, nid dim ond cwrdd ag undebau ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ond hefyd cynnal y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn o ran y goblygiadau ynghlwm wrth y DU yn gadael yr UE.

Y pwynt arall sy'n werth ei wneud yw bod Andrew R.T. Davies, gan ei fod wedi’i ddangos yn glir—tybed beth y mae ei gydweithwyr yn ei feddwl am ei ddatganiadau, y byddwn i’n dweud, dros y dyddiau diwethaf. Rwy’n cydnabod nad ydyw yma heddiw, ond pa awydd a fyddai beth bynnag, yn San Steffan, i adennill cyfrifoldeb dros amaethyddiaeth yng Nghymru? A dweud y gwir, yn y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn, mae’r broses o ymgysylltu â ffermwyr a'r undebau a’r partneriaid yn y sector wedi bod ynglŷn â sut y gallan nhw weithio gyda ni i ddatblygu polisïau amaethyddol yng Nghymru.

Rwy’n credu bod eich ail bwynt hefyd yn bwysig iawn—mae wedi’i gofnodi—ac wrth gwrs byddwn ni’n ystyried, unwaith eto, sut y gallwn ni godi hyn. Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn rhan o bwyllgor yr UE sydd wedi’i sefydlu; mae'n eistedd arno ochr yn ochr â chydweithwyr gweinidogol o weinyddiaethau datganoledig eraill ac, yn wir, Weinidogion Llywodraeth y DU hefyd, gan edrych ar yr union faterion hynny o ran y gweithlu ffermio, a fydd yn cael effaith arbennig, nid yn unig ar Gymru, ond ar weddill y DU.